Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
 
Llun-Gwener 10yb-5yh
Sadwrn 10yb-5yh
 

 

 

Archif

Mae Oriel Davies yn datblygu’r archif hwn i’r rhai hynny sy’n archwilio’r celfyddydau gweledol ac addysg gelfyddydol. Gellir chwilio drwy’r archif, sydd wedi’i rannu mewn i arddangosfeydd, prosiectau Test Bed drwy ddefnyddio’r bar chwilio isod neu drwy bori drwy dudalennau’r archif.

In Between the Folds are Particles
Anna Falcini

Mae corff cymhellol o waith newydd yn sôn am sgwrs barhaus rhwng yr artist cyfoes, Anna Falcini, a'r artist, Gwen John (1876 -1939) o Gymru, trwy archif llythyrau a dyddiaduron drafft John yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. mwy >

Arddangosfa 2019 06 Ebrill - 05 Mehefin

Flexuous
Sophie Kumar-Taylor

Mae Flexuous yn gomisiwn celf arbennig wedi ei greu gan Sophie Kumar-Taylor. Mae'r comisiwn Criw Celf yma'n dathlu llwyddiannau Sophie fel artist yn ei gyrfa cynnar, ac yn darparu cyfle iddi greu darn o waith safle-benodol yn Oriel Davies - y lleoliad celfyddydau gweledol mwyaf ei faint a mwyaf arwyddocaol yn y rhanbarth, sy'n oriel allweddol yng Nghymru. mwy >

Arddangosfa 2019 09 Mawrth - 30 Mawrth

Straeon Symudol
grŵp o artistiaid ifanc talentog

Bydd mis Mawrth 2019 yn gyfnod arbennig i grwp o artistiaid ifanc yng Ngogledd Powys, gyda dau arddangosfa o waith gan gyfranogwyr cyfredol a blaenorol prosiect Criw Celf yn cymryd lle yn Oriel Davies. Bydd yr arddangosfeydd yn cael eu hagor yn swyddogol gan Louise Wright o Gyngor Celfyddydau Cymru ar Ddydd Sadwrn, Mawrth 9fed am 3.15, mewn digwyddiad arbennig hefo'r artistiaid ifanc, eu teuluoedd a'u cyfeillion. mwy >

Arddangosfa 2019 09 Mawrth - 30 Mawrth

Cartographic Imaginaries: Interpreting the Literary Atlas of Wales
Arddangosfa Grwp

Mae Cartographic Imaginaries yn cyflwyno casgliad ysbrydoledig o waith celf a gomisiynwyd mewn ymateb i ddeuddeg nofel Saesneg sydd wedi’u gosod yng Nghymru. Mae'r rhain yn rhan o brosiect ehangach Literary Atlas of Wales, sy'n ymchwilio i sut mae llyfrau a mapiau'n ein helpu ni i ddeall natur ofodol y cyflwr dynol. Yn fwy penodol, mae'n edrych ar sut mae nofelau Saesneg sydd wedi’u gosod yng Nghymru yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o natur wir a ddychmygol y wlad, ei hanes a'i chymunedau. mwy >

Arddangosfa 2019 09 Chwefror - 18 Mawrth

Cyngerdd Gaeaf
Alis Huws a Carys Gittins

Cyngerdd Gaeaf mwy >

Arddangosfa 2019 01 Ionawr - 24 Tachwedd