Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
 
Llun-Gwener 10yb-5yh
Sadwrn 10yb-5yh
 

 

 

Archif

Mae Oriel Davies yn datblygu’r archif hwn i’r rhai hynny sy’n archwilio’r celfyddydau gweledol ac addysg gelfyddydol. Gellir chwilio drwy’r archif, sydd wedi’i rannu mewn i arddangosfeydd, prosiectau Test Bed drwy ddefnyddio’r bar chwilio isod neu drwy bori drwy dudalennau’r archif.

Creu // Make & Jwrnal Selects // y Casgliad Jwrnal
Group Exhibition

Arddangosfa ydy Creu // Make sy'n archwilio cynhyrchion crefft cyfoes sydd yn cael eu gwneud gan Wneuthurwyr o bob rhan o Gymru, yn defnyddio crefftau gwledig traddodiadol sy’n cynnwys; crochenwaith, gwehyddu, gwneud cadeiriau, celf tecstilau, gwaith coed a mwy. Mae gan Gymru draddodiad cryf o sgiliau crefft, sy'n tynnu ar ein hanes fel lle sy'n creu pethau. Mae'r arddangosfa hon yn archwilio rhai o'r sgiliau anhygoel sy'n cael eu hymarfer ar draws Cymru gan bobl sy'n cadw'r traddodiad hwn yn fy mwy >

Arddangosfa 2018 17 Tachwedd - 30 Ionawr

Waking the Witch - Old Ways, New Rites
Group Exhibition

Mae gan Ynysoedd Prydain berthynas arbennig o gryf gyda hud a'r ocwlt, gyda siantiau dewiniaeth yn adleisio drwy gydol ei hanes. Mae'r arddangosfa hon yn edrych ar bwysigrwydd crefft, defod a thir ar ymarfer ffigur y wrach sy'n symud yn ei dro. mwy >

Arddangosfa 2018 15 Medi - 07 Tachwedd

Arddangosfa Agored Oriel Davies 2018
Artistiaid Lluosog

Eleni, mae arddangosfa Oriel Davies yn dathlu gwledd o arferion cyfoes gan dalent sefydledig a newydd o ledled y DU a thramor. mwy >

Arddangosfa 2018 23 Mehefin - 05 Medi

Crossed Paths
Miranda Whall

Mae Crossed Paths yn cynnwys tri phrosiect gan yr artist Miranda Whall, sy'n byw yn Aberystwyth, a gafodd eu creu rhwng 2017 a 2021 yng Nghymru, yr Alban a Ffrainc. Mae'r rhain yn dwyn ynghyd ffilm, perfformiad a’r corff yn symud, mynydd ac ecoleg ucheldirol: gyda phob prosiect yn adrodd stori mynydd o safbwynt gwahanol. mwy >

Arddangosfa 2018 21 Ebrill - 13 Mehefin

Migrations Dance Film | Season 12 | Quarter 1
Various

Rhaglen chwarterol o Ffilmiau Dawns sydd yn cael eu dangos ar y sgrîn yng nghyntedd Oriel Davies. Mae Migrations’ Dance Film yn dangos rhai o'r darnau dawns gorau o bob cwr o'r byd, sy’n gymysgedd o waith arloesol gan brif gyfarwyddwyr a choreograffwyr, ac yn ddetholiad o'r artistiaid arobryn gorau yn y byd dawns ar hyn o bryd. mwy >

Arddangosfa 2018 01 Ebrill - 30 Mehefin