Parti Nadolig a Digwyddiad Gyrfaoedd yn y Celfyddydau Criw Celf

Eleni mae Parti Nadolig Criw Celf yn cynnwys digwyddiad gyrfaoedd, gan gynnwys sgyrsiau darluniol gan artistiaid yng Nghymru sy'n gwneud eu ... mwy >

Dosbarthiadau Bywluniadu ar ddydd Sadwrn gyda Paul Webster

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r ... mwy >

Messy Kitchen | gweithgaredd i blant a theuluoedd yn the kitchen - Ionawr

AM DDIM Gweithgaredd i Blant a Theuluoedd yn The Kitchen Mae Oriel Davies yn gwahodd plant a’u teuluoedd i gymryd rhan mewn ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Mae’n bleser gan Oriel Davies gyflwyno Relish, caffi bwyd cyflawn yr oriel.

 

Dan arweiniad Rosie Jones, Rheolwr y Caffi, mae'r tîm yn paratoi prydau blasus ar y safle, sy’n cael eu cyflwyno gyda gwasanaeth ardderchog a gwên.

Mae'r cynhwysion yn dymhorol, yn hollol ffres, ac yn cael eu prynu’n lleol pan fo hynny'n bosibl.

Mae'r bwydlenni’n cynnig dewisiadau i demtio pob chwaeth, o gawl a brechdanau cartref blasus, i brydau arbennig bob dydd fel lasagne sgwash cnau menyn, sbigoglys a ricotta neu tagine Morocaidd. Mae'r cacennau a’r bisgedi cartref a’r coffi barista sydd wedi’i rostio’n arbennig ar gyfer y caffi yn flasus dros ben. Mae opsiynau llysieuol, fegan a heb glwten ar gael bob amser.

Yn ystod misoedd yr Haf, mae’r Caffi yn ymestyn ar y teras, sy’n galluogi ymwelwyr i fwyta yn yr awyr agored.

Mae Relish wedi'i drwyddedu i werthu alcohol, ac mae’n stocio cwrw a gwinoedd gwych, a dewis gwych o ddiodydd meddal organig.

Amseroedd agor:

Ebril - Medi: Llun - Sadwrn 10yb - 4yh (cinio 12yb-2.30yh)

Hydref - Mawrth: Llun - Sadwrn 10yb - 3.30yh (cinio 12yb-2.30yh)

Mae Caffi Oriel Davies ar agor yn ystod y cyfnod pan gaiff arddangosfeydd eu gosod yn yr oriel. 

I fwcio bwrdd neu i gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Relish ar 01686 622288.

Llogi ystafell arlwyo

Yn ystod oriau agor arferol, gallai Caffi Oriel Davies ddarparu diodydd a bwffe yn yr ystafell gyfarfod. Ffoniwch Caffi yn uniongyrchol ar 01686 622288 i drafod eich anghenion arlwyo ac unrhyw ofynion dietegol arbennig cyn dychwelyd y Ffurflen Archebu Arlwyaeth. Ffurflen archebu arlwyaeth >