
Chester University trip, 2017
Criw Celf
Mae Criw Celf yn brosiect i bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed o Ogledd Powys sydd wedi cael eu nodi am fod yn abl a thalentog mewn celf gweledol. Mae'n ran o gynllun cenedlaethol i feithrin talent ifanc yng Nghymru. Mae'r grwp yn dod at eu gilydd o gwmpas 7 gwaith y flwyddyn i gydweithio hefo artistiaid proffesiynol ac i ymweld a arddangosfeydd ac adran celf gain prifysgol Caer.
Lawrlwytho: Cyhoeddiad Criw Celf 2017-18
Sut i wneud cais i gymryd rhan yn Criw Celf Oriel Davies
Mae rhaglen Criw Celf yn rhedeg o fis Hydref hyd mis Mawrth bob blwyddyn (gan osgoi adegau allweddol adolygu ac arholiadau). Mae’r digwyddiadau yn cymryd lle ar Ddydd Sadyrnau neu yn ystod y gwyliau ysgol.
I wneud cais, dylie artistiaid ifanc talentog a brwdfrydig lenwi ffurflen gais ynghyd a danfon delweddau o’u gwaith. Byddwn yn derbyn ceisiadau rhwng Mehefin a mis Medi 2018, cysylltwch â ni am fanylion pellach.
Mae 24 o lefydd ar Criw Celf Oriel Davies. Os rydych yn llwyddianus, bydd angen talu ffi o £35 tuag at costau’r gweithgareddau a digwyddiadau gan gynnwys defnyddiau celf a thripiau.
Noder: Mae llefydd yn cael eu cynnig am ddim i blant sy’n derbyn prydiau ysgol am ddim.
Am fwy o fanylion ar sut i wneud cais cysylltwch â:
Bethan Page, Cyd-lynydd Criw Celf, / desk@orieldavies.org / 01686 625041
Neu siaradwch hefo’ch athro/awes Gelf, a gofynnwch i gael eich enwebu i Griw Celf Oriel Davies.
Rhaglen Criw Celf 2-17-18
Profi bod yn ‘Artist Preswyl’ hefo’r Artist Simon Fenoulhet / Hydref 29ain a’r 30ain / Hydref 31ain a Tachwedd 1af
Bydd artistiaid ieuanc talentog Criw Celf yn gweithio ochr yn ochr â’r Artist Preswyl Simon Fenoulhet yn Oriel Davies i brofi beth mae hi fel i fod yn ‘artist preswyl’ eu hunain, tra’n creu gweithiau celf gan ddefnyddio goleuadau, peiriannau ac elfennau electroneg hefo arweiniad arbenigol yr artist.
Ymweliad â’r New Art Gallery Walsall / Sadwrn Tachwedd 18fed
Mae ymweliad blynyddol Criw Celf â’r New Art Gallery Walsall wastad yn boblogaidd hefo’r grwp – mae digon i’w weld yn yr adeilad pedair llawr yma sydd reit yng nghanol y dref. Byddwn yn gweld arddangosfeydd newydd a’r Casgliad Garman Ryan anhygoel.
Parti Nadolig a Sgyrsiau Gyrfaoedd yn y Celfyddydau / Sadwrn Rhagfyr 16eg
Cyfle i glywed am y wahanol ffyrdd y mae artistiaid yn byw ac yn gweithio yn yr 21fed Ganrif, gan gynnwys sgryrsiau Powerpoint gan bobl sy’n gweithio yn y celfyddydau. Bydd bwffe Nadolig yn cael ei ddarparu a bydd amser I edrych o gwmpas yr oriel a’r siop. Bydd Criw Celf Ceredigion hefyd yn ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad yma.
Ionawr 18fed a’r 27ain 2018: Dosbarthiadau Meistr hefo’r Artist Christine Mills – ymchwilio syniadau a theimladau drwy ddarlunio a chreu.
Mawrth 3ydd 2018: Ymweliad â Adran Celf Gain Prifysgol Caer gan gynnwys sesiynau blasu celfyddydol.
Mawrth 7fed 2018: Bydd gan Criw Celf ac Oriel davies stondin yn Ffair Yrfaoedd Powys, yng Maes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. Mae hwn yn ddigwyddiad i blant blynyddoedd ysgol 9,10 a 10. Galwch draw i’n gweld ni, ac i ddarganfod mwy am Criw Celf.
Digwyddiadau Diweddar Criw Celf
Mae arddangosfa a ffilm Gwneud ein Marc yn ganlyniad weithdy cydweithredol undydd a gymerodd le yn Rhagfyr 2016 yn Oriel Davies. Rhoddwyd y criw mewn tri grwp ar hap, a gosodwyd her dwy ran ar eu cyfer - y darn cyntaf oedd i ddyfeisio a chreu eu 'hoffer celf' eu hunain - ar gyfer hyn darparwyd ystod o adnoddau 'technoleg isel' fel cardfwrdd, hoelion, defnydd, doleni rholwyr paent, gwifren, gynnau glyd, cortyn, tâp a mwy. Ail ran yr her oedd i gydweithio i ddatblygu dulliau o wneud marciau, a cynlluniau neu darluniau gyda'r offer celf. Darparwyd papur wal plaen a lino llawr iddynt weithio arno. Cafodd y gweithiau gorffenedig eu harddangos yn Oriel Davies yn Ionawr-Chwefror 2017, ac yna yng Ngŵyl Crai (Gŵyl Gelfyddydau Ieuenctid Cymru) yn Venue Cymru, Llandudno yn Awst 2017. Roedd hyn yn gyfle gwych i ddathlu llwyddiant a chreadigrwydd Criw Celf yn genedlaethol.
Gwyliwch ffilm Gwneud ein Marc yma.
Mwy o wybodaeth
Bethan Page, Cydlynydd Criw Celf / desk@orieldavies.org / 01686 625041
Mae Criw Celf yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i gefnogi gan Gyngor Sir Powys.