Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org

Yr Angel Cyllell

04/01/20 – 31/01/20

Gareth Griffith

18/01/20 – 01/04/20

Jilly Edwards 

15/10/19 - 31/01/20

Llun-Gwener 10yb-5yh
Sadwrn 10yb-5yh
 

 

 

Digwyddiad Llansio | Trelar//Trailer: Gareth Griffith

Dydd Mawrth, 21 Ionawr 2020 - Dydd Mercher, 1 Ebrill 2020

Gareth Griffith 2020

Digwyddiad Llansio

Sadwrn 25/01/2020 3-5

Dyma arddangosfa o waith newydd gan yr artist Gareth Griffith, sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru. Mae’r Adeiladwaith a’r paentiadau yn ystyried y cysylltiadau rhwng lle ac amser ac yn cwestiynu materion cymdeithasol. Mae’r llefydd yn cynnwys Lerpwl, lle astudiodd yn y 1960au, Jamaica, lle bu’n byw efo’i deulu ifanc yn y saithdegau cynnar, a Mynydd Llandegai uwchben Dyffryn Ogwen lle y mae wedi byw a gweithio ers dros 40 mlynedd. Yn ei bedwar ugeinfed flwyddyn bellach, mae’r artist dylanwadol hwn yn cyflwyno gwaith sy’n defnyddio profiadau o’i einioes ac yn myfyrio ar y prosesau cynhyrchu a ddefnyddiwyd gan weithwyr ffatri yn y cymoedd a sut mae’r artist yn defnyddio’r un deunyddiau a phrosesau mewn ffyrdd gwahanol.

“Yr wyf yn edrych am cysylltiadau rhwng cerflunio a paentiadau . Y mae na cydfyw rhwng y dau-y gosodiad a’r paentiad.” Gareth Griffith

Trelar / Trailer

Croeso i bawb!

Am ragor o wybodaeth, ewch i - desk@orieldavies.org 01686625041

Digwyddiad Lawnsio gyda cymorth gan Morrisons