DIGWYDDIAD MEWN SGWRS gyda Phyllida Barlow CBE RA a Cecile Johnson Soliz.

Mae’n bleser gennym groesawu Phyllida Barlow CBE RA ar ddydd Sadwrn, 29 Mehefin, a fydd yn sgwrsio gyda Cecile Johnson Soliz. Gyda ... mwy >

Exhibition Openinging | Twist - Cecile Johnson Soliz

Agoriad a Digwyddiad Llansio Sadwrn 29 Mehefin, 2.00yh - ... mwy >

Dosbarthiadau Bywluniadu Paul Webster

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
 
Llun-Gwener 10yb-5yh
Sadwrn 10yb-4yh
 

 

 

Exhibition Openinging | Twist - Cecile Johnson Soliz

Dydd Sadwrn, 29 Mehefin 2019

Twist Cecile Johnson Soliz 2019

Agoriad a Digwyddiad Llansio

Sadwrn 29 Mehefin, 2.00yh - 5.00yh

Twist

Mae Cecile Johnson Soliz wrth ei bodd yn cerflunio a lluniadu. Mae hi’n gweithio ar draws y ddau faes, ac yn defnyddio deunyddiau bob dydd fel papur, ffabrig, pren, paent ac ystod o offer lluniadu i greu darnau trwm a diddorol.

Mae hi’n defnyddio ystumiau a gweithredoedd dynol cyffredin, syml, fel stwffio, lapio, casglu, stacio a phlygu mewn proses o wneud cerfluniau sy'n farddol ac yn chwareus, yn chwilfrydig ac yn gyfarwydd. Yn ei harddangosfa yn Oriel Davies, mae hi'n trawsnewid yr adeilad, gofodau’r oriel, ac ansawdd y golau trwy waith uchelgeisiol newydd.

Johnson Soliz oedd enillydd cyffredinol Arddangosfa Agored Oriel Davies yn 2018, ac mae'r arddangosfa hon yn rhan o'i gwobr. Enillodd y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain yn yr Eisteddfod yn 2017, ac yn ddiweddar, mae hi wedi arddangos gwaith yn Galerie Simpson, Abertawe (2017) ac yn Arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol (2017, 2018).

DIGWYDDIAD MEWN SGWRS | 3.00yh

Mae’n bleser gennym groesawu Phyllida Barlow CBE RA ar ddydd Sadwrn, 29 Mehefin, a fydd yn sgwrsio gyda Cecile Johnson Soliz.

Gyda Lluniaeth. Croeso i bawb!

Am ragor o wybodaeth, ewch i - desk@orieldavies.org 01686625041

Mae Twist wedi cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Am ragor o wybodaeth http://www.orieldavies.org/en/exhibition/twist