Ysgrifennu Erthyglau Nodwedd Llarwydd gyda Lara Clough

Bydd myfyrwyr yn archwilio technegau print a newyddiaduraeth ar-lein. Bydd y pynciau'n cynnwys darganfod ac ymchwilio straeon posibl, ... mwy >

Art as Research Seminar

Bydd artistiaid yn trafod yr her o gyfathrebu gwaith ymchwil ym maes y celfyddydau gweledol i gynulleidfa ehangach, ac yn edrych yn fanwl ar y berthynas ... mwy >

Dosbarthiadau Bywluniadu ar ddydd Sadwrn gyda Caroline Ali

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Prynhawn Anffurfiol gydag Enillwyr Cystadleuaeth Ysgrifennu Oriel Davies

Dydd Sadwrn, 8 Ebrill 2017

Letters

Cyhoeddi Enillwyr Cystadleuaeth Ysgrifennu Agored Oriel Davies 2016!

Cerdd fuddugol - Blood Lines gan Frances Field
Rhyddiaith Fuddugol - Cosmic Tiger gan Chris Clement-Green

Dewch i glywed gwaith gan enillwyr Cystadleuaeth Ysgrifennu Agored 2016, gan ymgeiswyr cymeradwy, a gan ddau o gyn-enillwyr Oriel Davies, sef Jan Newton, a enillodd y gystadleuaeth yn 2014 a Gill McEvoy, enillydd cystadleuaeth ysgrifennu cyntaf Oriel Davies. Ers hynny, mae Gill McEvoy wedi cyhoeddi tri o bamffledi barddoniaeth, a hi oedd enillydd Gwobr Michael Marks yn 2015 ar gyfer barddoniaeth. Mae Jan wedi ennill sawl cystadleuaeth ysgrifennu, gan gynnwys cystadleuaeth Stori Fer Allen Raine, Cwpan Lady Denman Sefydliad y Merched, a chystadleuaeth Oriel Davies Gallery am ysgrifennu am natur. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn New Welsh Review a cyn bo hir, bydd yn lansio ei nofel gyntaf.

Enillwyr
Mae Frances Field yn byw ger gororau Cymru.  Mae Frances yn bennaeth Saesneg yn Lady Hawkins’ School yn Kington, Swydd Henffordd.

Yn ddiweddar, ymddeolodd Chris Clement-Green o Heddlu Thames. Mae hi bellach yn byw yn Staylittle, lle mae'n hi’n rhedeg The Welsh Writing Shed thewelshwritingshed.co.uk.

Tocynnau a Bwcio

Dydd Sadwrn 08 Ebrill | 2pm—4pm | £3 (Am ddim i ymgeiswyr y gystadleuaeth)
Ffoniwch 01686 625041 neu e-bostiwch desk@orieldavies.org