Barddoniaeth 2 | Lara Clough

10 Sesiynau | Dydd Mercher 11 Ebrill– 13 Mehefin 2018 | 10.15am – ... mwy >

Cyfeillion Taith Oriel Davies i Liverpool World Museum

Os hoffech ymuno â Chyfeillion Oriel Davies a mynd ar un o'u tripiau coetsis rheolaidd i orielau celf ac amgueddfeydd ar draws y DU (o fewn ... mwy >

Trip Maes - Crossed Paths

Taith gerdded greadigol ydy hon, yn dilyn llwybr ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Colourfelt

Andreas Rüthi

09 Rhagfyr 2017 - 27 Ionawr 2018

Andreas Rüthi, Colourfelt

Image 1 of 6 next >   Andreas Rüthi | Field

Mae colourfelt yn dwyn ynghyd y pum corff o waith gan yr arlunydd o’r Swistir, Andreas Rüthi: cyd-enillydd Arddangosfa Agored Oriel Davies 2016. Mae Andreas, sydd yn byw ac yn gweithio yn Sir Fynwy, wedi arddangos ei baentiadau bywyd llonydd mewn dros ugain o arddangosfeydd unigol ar draws y byd. Mae Oriel Davies yn falch o gyflwyno colourfelt, ei sioe un person cyntaf yng Nghymru.

Mae'r gwaith yn ymchwiliad cyson i’r posibiliadau newydd o fewn traddodiadau paentio: o liw a ffurf, i’r syniad o’r ‘tebygrwydd’ a’r syllu.  Mae llawer o'i bwnc yn tarddu o gylchgronau, printiau, llyfrau a gwrthrychau hapgael, ac yn chwarae â natur atgynhyrchu ac ail-gyflwyno.

Mae Field yn cael ei ddangos am y tro cyntaf, ac yn taflu lliwiau afreolus i’r oriel.  Mae’r gwaith, sy’n cynnwys 64 o baentiadau sy’n portreadu bob atgynhyrchiad mewn arweinlyfr ar fadarch, yn dathlu pŵer rhithbeiriol lliw, tra’n cynrychioli’r potensial o fewn pob atgynhyrchiad.

Mae teitl y sioe, sef colorfelt, yn cyfeirio at y profiad o liw ac at y gair Almaeneg am ‘field’ sef Feld, sydd yn cael ei ynganu fel felt.

http://ruethi.co.uk/