Parti Nadolig a Digwyddiad Gyrfaoedd yn y Celfyddydau Criw Celf

Eleni mae Parti Nadolig Criw Celf yn cynnwys digwyddiad gyrfaoedd, gan gynnwys sgyrsiau darluniol gan artistiaid yng Nghymru sy'n gwneud eu ... mwy >

Dosbarthiadau Bywluniadu ar ddydd Sadwrn gyda Paul Webster

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r ... mwy >

Messy Kitchen | gweithgaredd i blant a theuluoedd yn the kitchen - Ionawr

AM DDIM Gweithgaredd i Blant a Theuluoedd yn The Kitchen Mae Oriel Davies yn gwahodd plant a’u teuluoedd i gymryd rhan mewn ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Migrations Dance Film

Amrywiol

23 Mai 2017 - 30 Mehefin 2017

Aphelie, Migrations

Aphelie

Rhaglen chwarterol o Ffilmiau Dawns sydd yn cael eu dangos ar y sgrin yn y cyntedd.

Mae Migrations Dance Film yn arddangos rhai o’r ffilmiau dawns byrion gorau o bob cwr o’r byd, sy’n gymysgedd o weithiau arloesol gan y cyfarwyddwyr a’r coreograffwyr gorau, a gan ddetholiad o'r artistiaid arobryn mwyaf disglair sydd yn dod i’r amlwg yn y maes ar hyn o bryd.

Mae rhaglen y Ffilmiau Dawns yn cynnwys y gweithiau gwych canlynol:-
1 / Aphelie / Cyril Meroni / France / 2013 / 4.39
2 / You Are Memory / John Dunn / Y Deyrnas Unedig / 2016 / 5.00 
3 / Ruins / Rosina Bossio / Columbia / 2016 / 4.30
4 / Etereas / Flaminguettes / Mexico / 2015 / 3.51

Mae ffilm newydd yn cael ei churadu pob chwarter ac ar hyn o bryd, mae’r ffilm yn cael ei harddangos mewn 20 o sefydliadau partner ar draws Cymru.
Dyma’r lleoliadau:
MOSTYN, Llandudno Venue Cymru
Oriel Wrecsam
Pontio
Volcano Theatre
TAPE
Canolfan Mileniwm Cymru
Ciafaic
Canolfan Siopa Deiniol, 3rd Space
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Oriel Mission
Galeri, Caernarfon
Mynydd Gwefru
Yr Academi Frenhinol Gymreig-Conwy
Llenyddiaeth Cymru
Oriel Davies
Y Festri
The Occasional Cinema MOMA, Machynlleth

Rydym bob amser yn chwilio am bartneriaid newydd o Gymru a thu hwnt i gymryd rhan yn y prosiect.  Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn bartner ar gyfer y prosiect hwn, ac os hoffech ddangos Ffilm Ddawns yn eich lleoliad, yna cysylltwch â michael@migrations.uk am ragor o wybodaeth.

Cefnogir Migrations Dance Film gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Paul Hamlyn, y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

www.migrations.uk