Special Event | Nicola Dale

Digwyddiad Arbennig: Ar ddydd Gwener, 22 Mehefin, rhwng 11am a 12.30pm, rydym yn cynnig sesiwn bywluniadu am ddim i dynnu llun un o artistiaid yr ... mwy >

Oriel Davies Open 2018 | Preview

Bydd Arddangosfa Agored Oriel Davies 2018 yn agor ar 23 Mehefin o 6 tan 8pm, a bydd y gwobrau’n cael eu cyhoeddi am ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Migrations Dance Film | Season 11 | Quarter 4

Various

01 Ionawr 2018 - 31 Mawrth 2018

'Her Children Mourn' | Marta Renzi | USA

Rhaglen chwarterol o Ffilmiau Dawns sydd yn cael eu dangos ar y sgrîn yng nghyntedd Oriel Davies. Mae Migrations’ Dance Film yn dangos rhai o'r darnau dawns gorau o bob cwr o'r byd, sy’n gymysgedd o waith arloesol gan brif gyfarwyddwyr a choreograffwyr, ac yn ddetholiad o'r artistiaid arobryn gorau yn y byd dawns ar hyn o bryd.

Mae’r rhaglen o Ffilmiau Dawns sydd yn rhedeg o fis Ionawr i fis Mawrth, yn cynnwys y ffilmiau ffantastig hyn;

1/ 'More than you think' | Jacopo Landi and Vanessa Michielon | Italy
2/ 'Kai' | Andrew Cumming | UK
3/ 'The Modern Dance' | Roger Wieland | Netherlands
4/ 'Her Children Mourn' | Marta Renzi | USA

Mae ffilm newydd yn cael ei churadu bob chwarter, ac yn cael ei dangos yng Nghymru gan ugain o sefydliadau partner presennol yr Oriel, sef:

MOSTYN, Llandudno
Venue Cymru
Oriel Wrecsam
Pontio
Volcano Theatre
TAPE
Canolfan Mileniwm Cymru
Ciafaic
Canolfan Siopa Deiniol
3rd Space
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Mission Gallery
Galeri, Caernarfon
Mynydd Gwefru
Yr Academi Frenhinol Gymreig, Conwy
Llenyddiaeth Cymru
Oriel Davies
Y Festri
The Occasional Cinema
MOMA, Machynlleth

Mae Migrations bob amser yn edrych am bartneriaid newydd ar gyfer y prosiect, o Gymru a thu hwnt. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn bartner yn y prosiect hwn a dangos Ffilmiau Dawns yn eich lleoliad, anfonwch e-bost at michael@migrations.uk am ragor o wybodaeth.

Mae Migrations' Dance Film yn cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Paul Hamlyn, Y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.
www.migrations.uk