Cwis Blynyddol Cyfeillion Oriel Davies 2017

Mae Cyfeillion Oriel Davies yn grŵp gweithgar o unigolion, sy'n ymroddedig i gefnogi Oriel Davies Gallery. mwy >

Messy Kitchen | Gweithgaredd i Blant a Theuluoedd yn The Kitchen

Mae Oriel Davies yn gwahodd plant a’u teuluoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a gweithdai creadigol ar foreau Sadwrn yn mwy >

Uwchgylchu Dillad | Jill Rolfe

4 Sesiynau | Dydd Llun 13, 20, 27 Tachwedd ac 11 Rhagfyr 2017 | 10am – 15.30pm Tiwtor Jill Rolfe
mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Navigations - Art as Research

Group exhibition

20 Mai 2017 - 19 Gorffennaf 2017

Andrew Dodds, Chirk Aqueduct, 2016

Image 1 of 5 next >   Andrew Dodds, Chirk Aqueduct, 2016

Mae saith o artistiaid rhyngwladol yn myfyrio ar natur cynnydd, dirywiad, globaleiddio ac amser. Maent yn defnyddio rhwydwaith Camlas Cymru fel man cychwyn, lle mae pawb ohonynt wedi bod yn artistiaid preswyl, ac yn ystyried y broses o wneud a meddwl fel artist, tra'n ymateb i safle neu sefyllfa arbennig.

Mae’r darnau yn cynnwys gwaith newydd a gomisiynwyd ar gyfer yr arddangosfa, ochr yn ochr â gwaith celf a gyflwynir yn yr awyr agored, ac maent yn cynnwys ymyriadau cerfluniol, perfformiad, ffotograffiaeth a gwaith fideo. Yr artistiaid sy'n arddangos yw:

Mo Abd-Ulla | Nicky Coutts | Andrew Dodds | Alan Goulbourne | Mair Hughes | Cheon Pyo Lee | Dan Rees

Roedd Glandŵr Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Addo yn bartner yn y rhaglen breswyl tair blynedd i artistiaid, oedd yn cynnwys prosiectau gydag orielau a sefydliadau’r celfyddydau gweledol, Bevilacqua la Masa yn Fenis, Emscher Kunst yn yr Almaen, Canolfan Gelfyddydau’r Chapter yng Nghaerdydd ac Oriel Davies.

Mae’r arddangosfa yn cael ei churadu gan Addo ac Oriel Davies.

Art as Research SeminarDydd Iau 29 Mehefin | 10.30am - 4pm | £20, yn cynnwys cinio bwffe

Cefnogir Navigations – Art as Research gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae rhai o’r gweithiau ar werth. Mae’r Oriel yn rhan o’r Cynllun Casglu.