Parti Nadolig a Digwyddiad Gyrfaoedd yn y Celfyddydau Criw Celf

Eleni mae Parti Nadolig Criw Celf yn cynnwys digwyddiad gyrfaoedd, gan gynnwys sgyrsiau darluniol gan artistiaid yng Nghymru sy'n gwneud eu ... mwy >

Dosbarthiadau Bywluniadu ar ddydd Sadwrn gyda Paul Webster

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r ... mwy >

Messy Kitchen | gweithgaredd i blant a theuluoedd yn the kitchen - Ionawr

AM DDIM Gweithgaredd i Blant a Theuluoedd yn The Kitchen Mae Oriel Davies yn gwahodd plant a’u teuluoedd i gymryd rhan mewn ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Preswyliad Litmus (Rhan 3)

Neasa Terry

07 Hydref 2017 - 02 Rhagfyr 2017

Maxuino x Beyoncé | 2016 | Neasa Terry

Maxuino x Beyoncé | 2016 | Neasa Terry

Mae Oriel Davies wrth ei bodd yn cyhoeddi bod Neasa Terry wedi'i ddewis ar gyfer Litmus (rhan 3), sy'n cymryd ffurf preswyliad.

Mae ymarfer Neasa Terry yn eistedd rhwng celf a dylunio ac yn ystod ei phreswyliad bydd Neasa yn archwilio syniadau datblygol sy'n gysylltiedig â sain, y corff dynol, atgynhyrchu mecanyddol a thechnoleg, trwy gyfres o berfformiadau byw.

Arddangosfa a rhaglen ddatblygu ydy Litmus, sy’n cynnig cymorth curadurol ac ymarferol i artistiaid newydd sy’n byw yng Nghymru a'r Gororau, i ymchwilio, datblygu a chyflwyno gwaith newydd yn Oriel Davies.

Rhagor o Wybodaeth - Litmus

Cefnogir Litmus gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Dogfennu’r broses breswyl

Mae cyfnod preswyl artist yn rhoi cyfle i’r artist, yr oriel a’r gymuned sy'n cymryd rhan i archwilio, profi a chreu gwaith newydd sy'n cyfateb â syniadau maen nhw’n ymchwilio iddynt yn eu hymarfer, ac yn y lleoliad preswyl hefyd.

A dydy cyfnod preswyl Neasa yma yn Oriel Davies ddim gwahanol- bydd yn defnyddio’r gofod Litmus, yn ogystal ag ardal leol y Drenewydd, i ysbrydoli ei hymchwil byw. Bydd hyn yn cael ei gyflawni ar ffurf set wythnosol o 'bosteri ymchwil' a fydd yn cael eu cadw yn y gofod, yn ogystal ag ar-lein ar ei thudalen tumblr, ac ar ffurf digwyddiadau byw.

Felly sut mae hyn yn gweithio mewn gwirionedd?  Bob wythnos, bydd Louise, sef Curadur Litmus, yn gofyn cwestiwn i Neasa am ei gwaith preswyl wrth iddo ddatblygu a thrwy wneud hyn, rydym yn gobeithio dogfennu’r broses breswyl.

C1: Pam cymryd rhan mewn cyfnod preswyl
 
Dwi newydd gwblhau gradd MA mewn Dylunio Graffig yn diweddar a chyn hynny, bûm yn astudio Celfyddyd Gain. Tua diwedd fy ngradd MA, roeddwn yn astudio’r berthynas rhwng lle, technoleg a sain, a thyfodd yn gyflym i fod yn brosiect mwy, gan edrych ar fandiau pres, mwyngloddio, archwilio gofod ac archifau sain. Llawer o bethau cyffrous i ddweud y gwir, ond dwi angen mwy o adnoddau ac amser i ddod â'r holl bethau hyn at ei gilydd.
 
C2: Pa syniadau ydych chi’n ymchwilio iddynt?
 
Dwi’n edrych ar ychydig o bethau gwahanol ... ond fel gwneuthurwr printiau hyfforddedig, mae gen i ddiddordeb mewn lluosrifau ac atgynhyrchiadau, yn enwedig atgynhyrchu’r bod dynol. Dechreuais ymddiddori’n fawr ym mhrofion tôn Edison, sef set o brofion oedd yn cael eu gwneud gan y cwmni Edison ar ddechrau'r 20fed ganrif i gywirdeb eu hatgynhyrchiadau mecanyddol ffonograffig. Roedd y profion hyn, oedd yn cael eu cynnal o flaen cynulleidfa, yn rhoi dyn i gystadlu yn erbyn peiriant, a'r uchafbwynt oedd 'The Dark Scene'. Wrth i’r goleuadau fynd i lawr, roedd y perfformiad yn cael ei roi gan y peiriant, gyda'r gynulleidfa yn ymddangos i ryfeddu gyda’r ffaith nad oeddent yn gallu gwahaniaethu rhwng y ddau.

Dwi wedi chwarae mewn cerddorfeydd trwy gydol fy mywyd, ac rwyf wrth fy modd â'r syniad hwn o haenu sain a sut y gallai llinynnau sgôr weithredu fel strata gwahanol o'r ddaear; uwchlaw ac islaw. Mae'n arbennig o ddiddorol pan fyddwch chi'n meddwl am hanes mwyngloddio Cymru; gyda sylweddau o islaw yn dod i'r wyneb ... Os ydyn ni'n meddwl am y ddaear yn nhermau haenau neu linellau sgôr gerddorol, sut allai hynny swnio? Hefyd, pan fyddwch chi'n meddwl am y mathau o leoedd sydd yn cael eu creu trwy fwyngloddio - ydy hyn yn effeithio ar y synau y mae pobl yn eu clywed ac yn dod i arfer â nhw, ac felly, y mathau o offerynnau maen nhw'n eu chwarae?

Dwi’n ddigon ffodus i gael enw anhygoel sydd wedi dylanwadu ar fy niddordeb mewn archwilio gofod. Yn gynharach y llynedd, cefais y cyfle i fynd i’r arddangosfa Cosmonaut yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain, ac roedd hi'n dda dechrau creu cysylltiadau rhwng technoleg, y tanddaearol a’r strata mewn cosmos cerddorol. Dechreuais ddarllen am y ras ofod a rhywfaint o'r ideoleg y tu ôl iddo, yn enwedig dyn o’r enw Nickolai Ferov. Yn ei 'athroniaeth o’r dasg gyffredin' fe gynigiodd; i greu amodau technolegol, cymdeithasol a gwleidyddol lle y byddai'n bosibl adfywio - trwy ddulliau artiffisial, technolegol - pawb sydd wedi byw erioed. Mae’r adfywio hwn o’r holl fywyd dynol yn creu nifer o bryderon ymarferol difrifol, a’r pwysicaf ydy’r gofod ffisegol i ddarparu ar gyfer pawb sydd wedi byw erioed (!)  Ateb Federov i hyn oedd edrych ar blanedau eraill yn y cosmos (gan danio sbardun y ras ofod Sofietaidd drwy hynny). Wrth archifo sain, mae mynegiadau’r corff yn cael eu cadw, ac wrth eu clywed, cânt eu lansio / eu hadfywio o du hwnt i'r bedd. Cynigiodd Federov hefyd, y dylai gofod amgueddfa gael ei greu “ar gyfer pob person oedd erioed wedi byw ar y ddaear hon," gan ragweld yr amodau lle'r oedd modd adfywio drwy dechnoleg. Felly, gellid gweld yr archif sain fel 'pad lansio', sy’n adfywio’r mynegiadau marwol hyn, a'u lansio i'r cosmos.

C3: Pam gwneud posteri bob wythnos
 
Wel, am sawl rheswm ... Dwi wedi cael tudalen Tumblr ers amser maith, ac rwy'n postio unrhyw beth rydw i'n dod ar ei draws sydd yn ddiddorol i mi neu sy’n berthnasol i'm gwaith. Dwi eisiau gwneud yn siŵr fy mod yn defnyddio ac yn ymgysylltu â'r ymchwil hwn, gan ei bod hi'n hawdd iawn postio pethau ac anghofio amdanynt, felly roeddwn i'n meddwl bod gwneud posteri yn ffordd dda o orfodi fy hun i ddefnyddio ac ystyried y cyfeiriadau hyn. Yn ail, dydy hi ddim yn hawdd gwneud gwaith bob amser, felly mae gorfodi fy hun i wneud tasg bob wythnos yn ffordd dda o barhau i wneud i mi feddwl a gwneud. Mae creu posteri yn ffordd newydd o weithio i mi hefyd, ond rwy'n hoffi bod pob un yn teimlo fel arddangosfa fach; nifer o wrthrychau wedi'u curadu, yn gweithio gyda’i gilydd ar y dudalen.
 
C4: Rhannwch esiampl oddi ar eich tudalen Tumblr

 
Dim esiampl ydio rili, ond ar hyn o bryd, mae gen i ddiddordeb mawr mewn cerddor o'r enw Hannah Peel. Mae ganddi'r albwm anhygoel hwn o'r enw ‘Mary Casio: Journey to Cassiopeia’, wedi'i ysbrydoli gan y paralelau rhwng teithio drwy’r gofod a'r meddwl dynol. Mae hi'n wych. Mae ganddi'r tafluniadau byw anhygoel hyn hefyd gan artist o’r enw Daniel Conway http://neasaterry.tumblr.com/post/165576635947

C5: Beth sy’n ennyn eich diddordeb mewn atgynhyrchu mecanyddol?
 
Treuliais 6 mlynedd yn astudio gwneud printiau felly bu gen i ddiddordeb mewn enghreifftiau lluosog, atgynhyrchiadau a chopïau ers tro byd. Yn ogystal, bu’n rhaid i mi ddarllen ‘The Work of Art in the Age of Mechanical Reproduction’ gan Benjamin sawl gwaith.
 
Yn gynharach eleni dechreuais ddarllen am brofion tôn Edison; profion a gynhaliwyd gan gwmni Edison ar ddechrau’r 20fed ganrif i brofi cywirdeb eu hatgynhyrchiadau mecanyddol ffonograffig. Roedd y profion hyn, a gynhaliwyd gerbron cynulleidfa, yn gosod bod dynol yn erbyn peiriant, a’r gynulleidfa yn ôl pob tebyg yn rhyfeddu nad oeddent yn gallu gwahaniaethu rhwng y ddau. Yn erthygl Nick Seaver ‘This Is Not a Copy: Mechanical Fidelity and the Re-enacting Piano’, mae’n disgrifio penllanw’r profion hyn fel “yr ‘olygfa dywyll’, pan fyddai’r goleuadau yn cael eu gostwng a’r gynulleidfa, yn dychmygu eu bod yn gwrando ar berfformiad byw, yn darganfod yn sydyn mai wedi bod yn clywed recordiad Edison oeddent mewn gwirionedd”. Fel un sydd wedi’i hyfforddi fel gwneuthurwr printiau, mae pwnc cywirdeb atgynhyrchu mecanyddol wastad wedi bod yn hynod berthnasol. Wrth atgynhyrchu’n hunain, byddwn yn rhythu ac yn rhyfeddu at ein hatgynhyrchiadau, ond eto yn ffieiddio at eu lletchwithdod. Dan gochl yr olygfa dywyll mae’r ffin rhwng bod dynol a pheiriant yn pylu.
 
C6: Beth yw cosmos cerddorol?

 
Heb os, nid yw’r gred mewn cerddoriaeth anhyglyw’r sfferau yn gysyniad newydd. Bu pobl yn credu ers amser maith fod symudiad y planedau a’r sêr yn gyrru suon wybrennol na all y glust ddynol eu clywed (neu efallai nad ydym yn sylwi arnynt bellach gan ein bod wedi hen arfer â hwy).
 
Yn yr oes gymharol ddiweddar, gan osod y cysyniad hwnnw mewn graddfa fwy perthnasol (gair mwys bwriadol), mae rhywun fel Daphne Oram yn mynnu ein bod i gyd yn allyrru graddfa gorfforol anhyglyw yn deillio o ddirgryniadau gan foleciwlau hydrogen yn ein cyrff. http://neasaterry.tumblr.com/post/138033858452/daphne-orams-hydrogen-scale-from-an-individual
Yn ei llyfr ‘An Individual Note of music sound and electronics’, a gyhoeddwyd yn 1972, dywed:

Sawl atom hydrogen sydd gennym yn ein cyrff? […] mae atomau hydrogen yn y braster yn ein cyrff – felly at ei gilydd mae’n rhaid ein bod wedi’n creu o ambell atom hydrogen sy’n gyrru eu ‘graddfa’ gerddorol (amledd uchel iawn)! Wrth feddwl am yr holl elfennau eraill, nwyon a chyfansoddion sydd yn ein cyrff, bydd y ‘cord cerddorol’ neu batrwm y seindon ynddo’i hun yn anhygoel.
 
Felly os feddyliwn am yr haenau sy’n ein hamgylchynu, yn y dyfnderoedd ac yn yr entrychion, a’r holl haenau yma’n cydweithio mewn cytgord, yn allyrru eu ‘su’ arbennig, sut olwg fyddai ar y sgôr hwnnw neu sut sain fyddai iddo? Wrth feddwl am hynny ac wrth edrych ar hanes glofaol Cymru, a’r haenau oddi isod yn cael eu cludo i’r wyneb, cawn ddarlun hynod ddiddorol. Sut sain fyddai hynny? A fyddai fel tiwba yn canu rhan picolo?
 
C7: Beth sy’n ennyn eich diddordeb yn hanes tecstilau Y Drenewydd?
 
Yn bendant mae perthynas rhwng tecstilau, cerddoriaeth a chodio. Mae’n debyg i’r syniad deuaidd hwnnw ymlaen/i ffwrdd positif/negatif. Pan feddyliwch am y cardiau tyllog a ddefnyddiwyd yn nyddiau cynnar y cyfrifiadur ac yna’r modd y’u defnyddiwyd yn y diwydiannau tecstil a cherddoriaeth. (Yn ddiddorol, os byddwch yn chwilio am ‘punch card’ ar Wikipedia yn Saesneg, mae’n dangos llun o wŷdd ac yna’n sôn am Jacques de Vaucanson a fu hefyd yn gyfrifol am greu awtomata clocwaith yn y 18 fed ganrif, megis yr hwyaden dreulgar, sef atgynhyrchiad mecanyddol o aderyn a allai fwyta a threulio bwyd yn ôl pob sôn, sydd felly’n cysylltu nôl â’ch cwestiwn cynt ynglŷn ag atgynhyrchu mecanyddol). Rydw i hefyd yn hoff o’r symud ailadroddus sydd ynghlwm â chreu tecstilau a’r modd y mae’n cysylltu â’r patrwm symud ailadroddus sydd ynghlwm ag arwain. A allai’r symud ym maes gwehyddu gael ei drawsnodi i’r maes arwain?