One Thousand Mindreaders | Stuart Nolan

One Thousand Mindreaders | Stuart Nolan
Dydd Gwener 19 Ionawr 2018 | 3pm - 4.30pm | AM DDIM
(rydym yn argymell eich bod yn bwcio ... mwy >

Messy Kitchen | gweithgaredd i blant a theuluoedd yn the kitchen - Ionawr

AM DDIM Gweithgaredd i Blant a Theuluoedd yn The Kitchen Mae Oriel Davies yn gwahodd plant a’u teuluoedd i gymryd rhan mewn ... mwy >

The Bird Company | Celf Able

Dydd Mercher 08 Tachwedd 2017 | 2-3.30pm | Digwyddiad AM DDIM*
Dydd Mercher 24 Ionawr ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Preswyliad Litmus (Rhan 4)

Paul Eastwood

09 Rhagfyr 2017 - 27 Ionawr 2018

Paul Eastwood 'In memoriam'

Mae Oriel Davies wrth ei bodd yn cyhoeddi bod Paul Eastwood wedi'i ddewis ar gyfer Litmus (rhan 4), sy'n cymryd ffurf preswyliad.

Mae Paul Eastwood yn artist o Wrecsam,  gydag ymarfer sy'n archwilio celf fel ffurf o gynhyrchiad cymdeithasol ac adrodd straeon diwylliannol. Mae Paul yn gweithio'n helaeth ar draws testun, cerflunwaith, perfformiad, fideo, darlunio, gwneud printiau a thecstilau.  Mae Paul yn creu gwaith sy’n dogfennu cyfnodau o amser yn y gorffennol a’r dyfodol, ac yn adrodd arnynt, i archwilio sut y gall lle a gwrthrychau gydnabod hunaniaeth ddiwylliannol.

Yn ystod cyfnod preswyl Litmus,  bydd Paul yn datblygu camau cychwynnol ei brosiect uchelgeisiol 'Dyfodiaith', sy'n dychmygu siarad â dyfodol anhysbys lle mae'r iaith Frythoneg wedi parhau'n fyw, ac esblygu drwy'r canrifoedd i fod yn rhywbeth rhyfedd ac anghyfarwydd. Siaradwyd yr iaith Frythoneg, sef gr┼Áp o ieithoedd Celtaidd hynafol, ym Mhrydain cyn ac yn ystod y feddiannaeth Rufeinig, a goroesodd fel Cymraeg a Chernyweg, a’i siarad yn Llydaw gan ymfudwyr. Mae 'Dyfodiaith' yn ymchwilio'n greadigol i gyd-destun diwylliannol yr iaith Gymraeg mewn perthynas â ieithoedd lleiafrifol sydd yn cael eu siarad ar draws y byd, dwyieithrwydd ac ieithoedd cyffredin, ac yn gofyn: Pa iaith fyddwn ni'n ei siarad yn y dyfodol? Sut fydd yr iaith yn swnio a sut fydd yn edrych?

Gan adeiladu ar etifeddiaeth mentrau blaenorol Oriel Davies, sef TestBed ac In Focus -mae Litmus yn arddangosfa a rhaglen ddatblygu, sy’n cynnig cymorth curadurol ac ymarferol i bump o artistiaid newydd sy’n byw yng Nghymru a'r Gororau, i ymchwilio, datblygu a chyflwyno gwaith newydd yn Oriel Davies.

http://paul-eastwood.net/

Rhagor o Wybodaeth Litmus

Cefnogir Litmus gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Dogfennu’r broses breswyl

Mae cyfnod preswyl artist yn rhoi cyfle i’r artist, yr oriel a’r gymuned sy'n cymryd rhan i archwilio, profi a chreu gwaith newydd sy'n cyfateb â syniadau maen nhw’n ymchwilio iddynt yn eu hymarfer, ac yn y lleoliad preswyl hefyd.

Felly sut mae hyn yn gweithio mewn gwirionedd?  Bob wythnos, bydd Louise, sef Curadur Litmus, yn gofyn cwestiwn i Paul am ei gwaith preswyl wrth iddo ddatblygu a thrwy wneud hyn, rydym yn gobeithio dogfennu’r broses breswyl.

C1. Yn ystod cyfnod preswyl Litmus, byddwch chi'n dechrau eich prosiect uchelgeisiol, Dyfodiaith; sut fyddech chi'n cyflwyno'r prosiect?
 
Prif nod y prosiect ydy archwilio sut mae gan iaith y potensial i siapio'ch meddyliau a'ch gweithredoedd gan yr eirfa a ddefnyddiwch, a sut y gallem wedyn, geisio cyfathrebu gyda dyfodol sydd heb ddigwydd eto.
 
C2. Pa ddeunyddiau sydd wedi eich ysbrydoli chi, yn eich barn ar Dyfodiaith?
 

Mae Dyfodiaith yn cael ei ysbrydoli gan 'Ebargofiant' (2014) gan Jerry Hunter, sydd wedi'i osod mewn dyfodol pell lle nad oes neb mewn cymdeithas yn gallu ysgrifennu, a gan nofel Islwyn Ffowc Elis, 'Wythnos Yng Nghymru Fydd' (1957), sydd wedi'i lleoli mewn dyfodol dystopaidd / iwtopiaidd yng Nghymru. Rwy’n cael fy nghyfareddu hefyd gan Newspeak George Orwell, o'i nofel ddystopaidd '1984' (1949), a'r Saesneg 'Nadsat' wedi’i ddylanwadu gan Rwsia, a ddefnyddir gan bobl ifanc yn eu harddegau yn nofel Anthony Burgess, 'A Clockwork Orange' (1962).
 
C3. Sut ydych chi wedi dechrau gweithio gydag iaith, ac yn benodol, yr iaith Gymraeg?

 
Yn 2009, pan oeddwn i'n byw yn yr Almaen ac yn dysgu Almaeneg, dechreuais gwestiynu fy nhreftadaeth fy hun. Beth mae'n ei olygu i gaffael iaith arall, pan nad oes gennych fynediad i ddefnyddio'r un y cawsoch ei haddysgu ynddi? Pa bwrpas sydd iddi, a sut y gall ddylanwadu ar y byd o’ch cwmpas?  Hefyd, mewn cyd-destun ehangach, rydw i eisiau archwilio sut rydych chi'n gweithio gydag iaith leiafrifol, a sut mae gan siaradwyr ieithoedd lleiafrifol lwyfan mewn arena fyd-eang.
 
C4. Yn eich gwaith fel artist, rydych chi'n archwilio celf fel ffurf o gynhyrchiad cymdeithasol ac adrodd storïau diwylliannol. Beth sydd o ddiddordeb i chi yn y fframwaith hwn?

Mae fframwaith adrodd storïau yn galluogi rhywun i ymholi a chwestiynu, gan ei fod yn creu lle i gyflwyno amheuaeth. Rwy'n meddwl amdano fel rhyw fath ar draethawd fideo, lle mae cyfres o ragdybiaethau yn cael eu cyflwyno a’u cwestiynu drwy naratif, a ble mae’r cymhorthion gweledol yn cynorthwyo'r dehongliad o'r syniadau hyn.

C5. Sut fyddwch chi’n defnyddio eich amser yn ystod y cyfnod preswyl Litmus?

Byddaf yn canolbwyntio ar ffurfiau o ysgrifennu a thynnu lluniau yn ystod y cyfnod preswyl hwn. Bydd y prosiect yn canolbwyntio troi o gwmpas dau naratif bach: Brythoneg -  'iaith farw yn fyw' a 'chanlyniadau anhysbys' yn y dyfodol. Mae gennyf ddiddordeb mewn astudio geiriau hynafol ac archwilio sut y gallaf eu hailgyflwyno trwy naratif y sgript, a chael pobl i ddefnyddio geiriau meirw ac anghyffredin unwaith eto - 'iaith farw yn fyw'.

C6. Rydych chi wedi dod â chasgliad o'ch llyfrau eich hun i’r gofod Litmus - sut ydych chi'n gweithio gyda'r llyfrau hyn?

Yn ystod prosiect ymchwil a datblygu 'iwtopia', sylweddolais pa mor anodd oedd hi i gael deunydd cyfeirio yn yr iaith Gymraeg heb fynd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, neu i Brifysgol Bangor. Gan fy mod yn meddwl am ieithoedd sydd wedi'u hymyleiddio, neu ar yr ymylon, dechreuais feddwl am syniad Andre Malraux o'r 'llyfrgell ddychmygol' a 'The Library of Babel' Jorge Luis Borges, i gwestiynu sut mae pensaernïaeth yn allweddol wrth ddiffinio portreadau gweledol o syniadau mewn cyd-destun anllenyddol. Mae'r llyfrgell ddychmygol yn ffordd o ail-ddychmygu rôl yr oriel a'r artist lle mae gwrthrychau, arteffactau, delweddau, cerfluniau a dodrefn yn gynrychiolaeth ffisegol o syniadau, sy'n ein galluogi ni i feddwl yn wahanol am y byd yr ydym yn byw ynddi.

C7. Rydych chi’n disgrifio eich printiau fel ‘brasluniau’ - fedrwch chi siarad am hyn mewn perthynas â datblygu perfformiad?

Rwy'n gweld y gall y printiau hyn fy ngalluogi i feddwl am sut yr hoffwn ddatblygu perfformiad, heb greu darluniau yn llythrennol ar gyfer digwyddiad byw. Mae'r weithred o dynnu lluniau yn gyfle i mi feddwl am sut i feddiannu amser, a sut mae syniadau'n datblygu dros gyfnod penodol. Byddaf yn symud deunyddiau o gwmpas ar blât brintio, neu’n creu marciau mewn pensiliau / beiros ‘felt tip’, i greu delwedd. Mae rhai yn llwyddiannus, ond nid dyma’r achos ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt; Rwy'n cael mai camgymeriadau yw’r pethau mwyaf gwerth chweil.