DIGWYDDIAD MEWN SGWRS gyda Phyllida Barlow CBE RA a Cecile Johnson Soliz.

Mae’n bleser gennym groesawu Phyllida Barlow CBE RA ar ddydd Sadwrn, 29 Mehefin, a fydd yn sgwrsio gyda Cecile Johnson Soliz. Gyda ... mwy >

Exhibition Openinging | Twist - Cecile Johnson Soliz

Agoriad a Digwyddiad Llansio Sadwrn 29 Mehefin, 2.00yh - ... mwy >

Dosbarthiadau Bywluniadu Paul Webster

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
 
Llun-Gwener 10yb-5yh
Sadwrn 10yb-4yh
 

 

 

Proses: Gwaith Myfyrwyr o'r NPTC

Group Exhibition

08 Mehefin 2019 - 19 Mehefin 2019

Image 1 of 2 next >   

Ym maes Celf a Dylunio, fe'i disgrifir fel cyfres o weithrediadau neu gamau creadigol a gymerir er mwyn cyflawni nod penodol, beth bynnag y ddisgyblaeth dan sylw; Celfyddyd Gain, Dylunio 3D, Ffasiwn, Tecstilau, Ffotograffiaeth, Graffeg ac ati. Mae llawer o fanteision i'r broses greadigol ei hun. Yn ogystal รข datblygu'r gallu i drin a thrafod deunyddiau'n allanol, mae proses greadigol fewnol hefyd yn digwydd wrth i sgiliau ymchwilio, meddwl a dadansoddi gael eu datblygu. Mae'r meysydd datblygu sgiliau hyn yn gynsail i lawer o'r gweithgareddau y mae dysgwyr yn cymryd rhan ynddynt wrth astudio yn yr Adran Celf a Dylunio yng Ngholeg Y Drenewydd.

Mae'r gwaith sy'n cael ei arddangos yn ceisio archwilio a chyflwyno llawer o nodweddion y broses greadigol, o syniadau cychwynnol, gwaith mewn llyfr brasluniau ac archwilio'r cyfryngau i gyflwyno casgliadau ymarferol a chysyniadol. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau ymchwilio i ddarluniau ein proses greadigol gymaint ag yr ydym wedi mwynhau eu cynhyrchu!