Galwad am Gomisiynau gan Artistiaid | Litmus - Rhan 1

Litmus
Dyddiad cau: 1 Mawrth 2017
Ar agor i artistiaid newydd sy’n byw yng Nghymru a’r Gororau
Mae Litmus yn rhaglen 12 mis o gomisiynau gan artistiaid newydd, fydd yn cael ei chynnal yn Oriel Davies rhwng mis Mai 2017 a mis Ebrill 2018. Litmus - Rhan 1 yw’r alwad gyntaf am gynigion am gomisiynau ar gyfer y cyfnod 20 Mai – 19 Gorffennaf 2017.
Mae Litmus yn cynnig cyfleoedd comisiynu ochr yn ochr â chyfleoedd datblygiad proffesiynol a rhwydweithio, tra'n ehangu cynulleidfaoedd yr Oriel ar gyfer celfyddydau gweledol cyfoes newydd, arloesol ac arbrofol. Mae'r fenter yn canolbwyntio ar gomisiynu a chyflwyno gwaith gan artistiaid newydd yng Nghymru a'r Gororau trwy gyfres o arddangosfeydd a chyflwyniadau arloesol.
Rydym yn awyddus i glywed gan artistiaid gweledol y mae eu cynigion yn gwneud defnydd arloesol o'r gofod TestBed cyfredol, yn ogystal ag archwilio mannau eraill posibl yn ac o amgylch yr Oriel, neu hyd yn oed ar-lein. Fel rhan o'r broses gomisiynu, disgwylir i artistiaid roi sgwrs neu gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa.
Bydd rhaglen gomisiwn yr artistiaid Litmus yn cael ei datblygu drwy weithio gydag Artist-Guradur newydd, a fydd yn gweithio ochr yn ochr ag Alex Boyd Jones, Curadur Oriel Davies, ac aelodau eraill o dîm yr oriel, ac yn cael eu cefnogi ganddynt.
Mae'r gofod TestBed yn fach, ond eto’n hyblyg, ac yn mesur 158cm (ll) x 212cm (h) x 219cm (u). Gall y gofod ddarparu ar gyfer amrywiaeth o waith, o waith fideo a gosodiadau, i gerflunwaith, gwaith ar sail amser, a gwaith y gellir ei osod ar y wal.
Ffioedd
Codir ffi gomisiynu o £600, a £400 yn ychwanegol tuag at gostau cynhyrchu, adnoddau a threuliau.
Cais yr Artist
Rhaid i geisiadau gynnwys:
- Ffurflen Gais wedi’i chwblhau
- Amlinelliad o’r cais (hyd at 2 ochr A4*)
- Curriculum vitae (uchafswm o ddwy dudalen*)
- Datganiad artist (uchafswm o 400 gair*)
- Ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal
- Dogfennaeth weledol o dri phrosiect enghreifftiol:
- Cyflwynwch dair delwedd ddigidol llonydd o bob prosiect, wedi’u harbed fel ffeiliau jpg ar 300dpi (pob ffeil dim mwy na 2mb yr un).
- Ar gyfer lluniau AV / symudol, anfonwch ddolen drwy Vimeo, YouTube, gwefan ac ati, gyda’r cyfrinair / cyfrineiriau perthnasol.
*Dylid cyflwyno dogfennau ar ffurf Word neu pdf
Dylid dychwelyd pob cais drwy e-bost at alex@orieldavies.org gyda’r pennawd: Comisiwn Litmus– Rhan 1
Rhagor o Wybodaeth
Am ragor o wybodaeth am Oriel Davies, ewch i www.orieldavies.org.
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am Litmus, cysylltwch ag Alex Boyd Jones, alex@orieldavies.org
Ariannir Litmus gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Cyhoeddwyd 25 Ionawr 2017
Newyddion >