
Workshop inspired by ARTIST ROOMS: Francesca Woodman exhibition February 2015
Datblygu sgiliau creadigrwydd, llythrennedd, meddwl a chyfathrebu drwy’r celfyddydau.
Cydweithredu a Phartneriaeth
Mae prosiectau arddangosfeydd ac artistiaid Oriel Davies, yn darparu adnodd amrywiol ac ysbrydoledig ar gyfer cefnogi dysgu ar draws y cwricwlwm. Mae ein prosiectau mwyaf llwyddiannus gydag ysgolion a cholegau yn cael eu datblygu mewn partneriaeth ag athrawon a disgyblion. Rydym yn arbennig o hapus pan fydd athrawon yn cysylltu â ni gyda syniad yr hoffent ei ganlyn gyda ni, neu a fyddai'n hoffi archwilio sut gallai addysgu yn y dyfodol gael budd o'n harddangosfeydd a sgiliau ein hartistiaid i gefnogi eu cynlluniau gwaith mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Gallai prosiectau o'r fath gyfuno ymweliadau arddangosfeydd, gweithdai dan arweiniad artistiaid, gweithgareddau allgymorth yn yr ysgol neu mewn safleoedd eraill, a hyd yn oed cyfleoedd i gymryd rhan mewn arddangosfeydd yn yr oriel.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau o'r gorffennol>
Cliciwch yma i glywed Ysgol Cedewain Across the Ocean>
Help gyda Chyllid
Gall Cronfa Profi’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru gyflwyno grantiau i helpu ysgolion gyda chostau teithio a chostau gweithgareddau, a gallwn eich cynghori wrth wneud eich cais.
Rhagor o wybodaeth www.arts.wales
Ymweld
Ar gyfer ymweliadau grŵp hunanarweiniol, rhowch wybod i ni ymlaen llaw, drwy anfon e-bost at desk@orieldavies.org / 01686 625041.