Ysgrifennu gyda Sylw a Theimlad

Ysgrifennu gyda Sylw a Theimlad  Dydd Mercher 10, 17, 24 Hydref; 7, 14, 21, 28 Tachwedd; 5 a 12 Rhagfyr ... mwy >

Halloween Masks

Halloween Masks Gyda’r Artist Helen Kozich Dydd Mawrth 30 ... mwy >

Ategolion Calan Gaeaf

gyda’r Artist Zoë Needle Dydd Mercher 31 Hydref 10.30am-12.30pm, ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Arddangosfa Agored Oriel Davies 2018

Artistiaid Lluosog

23 Mehefin 2018 - 05 Medi 2018

Image 1 of 4 next >   J.A.Nicholls, Zeal (detail) 2017

Eleni, mae arddangosfa Oriel Davies yn dathlu gwledd o arferion cyfoes gan dalent sefydledig a newydd o ledled y DU a thramor.

Mae’r pump ar y panel dethol wedi gweithio’n galed i ddewis yr hyn maen nhw'n ei ystyried i fod y gwaith mwyaf gwreiddiol a deniadol o blith cannoedd o geisiadau o bob cwr o'r byd. Mae dau ar hugain o artistiaid a chasgliadau artistiaid yn cael eu cynrychioli, gyda chyfran dda o'r rheiny o Gymru. Gyda'i gilydd, mae'r artistiaid hyn yn cyflwyno gwaith newydd a diweddar sy'n adlewyrchu amrywiaeth o ran arferion cyfoes - boed yn haniaethol neu'n ffigurol, yn gynrychiadol neu'n ddychmygo.
 
Mae tair gwobr yn rhan o draddodiad Arddangosfa Agored Oriel Davies. Bydd enillydd y wobr gyffredinol yn derbyn gwobr ariannol o £1000 a gwahoddiad i gael sioe unigol yn Oriel Davies, a bydd enillydd y wobr i fyfyrwyr yn derbyn gwobr ariannol o £500; bydd y ddau ohonynt yn cael eu cyhoeddi yn yr agoriad. Bydd y Wobr Dewis y Bobl o £250, sy’n boblogaidd iawn, yn cael ei chyflwyno ar ddiwedd y sioe hefyd, i'r artist sydd yn derbyn y mwyafrif o bleidleisiau am ei waith. Dewch i enwebu'r gwaith y credwch y dylai ennill!
 
Panel dethol ODO18: Sacha Craddock, awdur a churadur; Jane Simpson, artist a Chyfarwyddwr Galerie Simpson; Matthew Collings, Artist, Ysgrifennwr, Beirniad and Darlledwr; Steffan Jones-Hughes, Cyfarwyddwr, Oriel Davies ac Alex Boyd Jones Curadur, Oriel Davies.

Mae’r artistiaid sy’n arddangos yn cynnwys:

Alice Briggs, Savinder BualNicola DaleShona DaviesKatharine FryDavid GarnerHenriette HeimdalNicholas HolmesBruce IngramCecile Johnson SolizJack KettlewellJon KleinDinu LiBethan Lloyd WorthingtonGweni LlwydAmanda LoomesGarry Loughlin, Rachel Magdeburg, Myles MansfieldMyken McDowell, Nicholas McLeodDave MonaghanJ.A. Nicholls, Judith Rees, Lizi SanchezLouise ShortNada VelickovicAlice Walter.