Dosbarthiadau Bywluniadu Paul Webster

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r ... mwy >

Rangoli: Art that Binds

Following the success of the 2017 Rangoli: Art that Binds project, as part the India/ Wales season of events with the mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
 
Llun-Gwener 10yb-5yh
Sadwrn 10yb-4yh
 

 

 

Traethodau

Chwyddo

Arddangosfa: Y bore hwnnw, gwyliodd y wawr yn torri
Dyddiad: Chwefror 2009
Ysgrifennydd: Mike Parker
Cyhoeddiad: That morning he watched the dawn
Cyhoeddwr: Oriel Davies Publications

Diolch i Google Earth a’i debyg, rydym yn awr yn gwbl gyfarwydd â’r syniad o chwyddo i mewn ac allan o’n tirluniau yn hynod o gyflym. Mewn mater o eiliadau gallwn fynd o hofran ymhell uwchben cyfandir cyfan, i fynd i lawr i archwiliad manwl o’n garddiau cefn ein hunain - neu yn fwy diddorol, rhai ein cymdogion, ffrindiau a dieithriaid llwyr. Mae’r datblygiad rhyfeddol hwn wedi arwain at lawer o hobïau newydd, o fusnesa mewn gosodiadau milwrol a oedd cyn hynny’n rhai dirgel i bartïon ar y pryd yng ngerddi'r rhai hynny gyda phyllau nofio preifat.

Mae’r chwyddo yma wedi dod yn rhywbeth sy’n digwydd yn aml gan y cyfryngau newyddion, sy’n cael ei ddefnyddio’n gynyddol i egluro eu storïau. Gallwch weld pam: mae’n awgrymu eich bod yn cadw golwg ar y byd i gyd a dyma ni, yn gwibio tuag at y ddaear i gymryd manylion i mewn o’r llinell flaen heddiw, boed hynny yng ngwlad Tai, Tobago neu Drefeglwys. Gall y newid persbectif sydyn eich gwneud yn benysgafn, gan awgrymu awyren yn plymio tua’r ddaear yn hytrach na llygad holl weledol y BBC neu Sky News.

Fel mor aml mewn bywyd, mynegodd y Super Furry Animals y syniad braidd yn fwy cain. Roedd eu halbwm Cymraeg Mwng, o 2000, yn diweddu gyda thrac arbennig oedd yn dechrau ar y ddaear yma yng Nghymru (“Yma yw lle dewisom ni / I gael plannu gwreiddiau dwfn”), cyn ein codi yn raddol i fyny i’r nefoedd a gweld ein darn bach o dir yn encilio i ddinodedd cosmig. Mae’n diwn sy’n tawelu eich enaid a hefyd yn torri eich calon yr un pryd: hanfod perthynas y Cymry gyda’u milltir sgwâr.

Mae degawd o fyw yng nghanolbarth Cymru wedi newid fy mhersbectif ar y tirlun. Wrth gyrraedd fel ysgrifennwr teithio brwdfrydig iawn, yr olwg eang ar y Gymru hynod ffisegol a’m denodd i. Yn fuan, dechreuodd fy ffordd o edrych ar bethau chwyddo’r olygfa mor gyflym â fflach newyddion y BBC, yn hytrach na’r golygfeydd cerdyn post a lluniau’r llyfrau taith, manylion y tir a fabwysiadwyd gennyf oedd yn fy rhyfeddu. Dechreuodd yn y byd ffisegol: patrwm cen cerrig a mwsoglau ar goed neu greigiau arbennig, y pyllau tro a’r mannau lle gellid gweld gweision y neidr ar afonydd lleol, gwybod lle byddai’r mafon cochion gorau yn y gwrychoedd neu’r madarch gwyllt yn ymddangos yn fuan. Po fwyaf yr arhoswn yn myfyrio arnynt, po fwyaf y byddai pob manylyn yn datblygu cyd-destunau a oedd yn ddiwylliannol, yn ysbrydol, yn wleidyddol: yr edafedd anweledig sy’n clymu cymunedau gyda’i gilydd, hyd yn oed y rhai hynny sydd wedi eu lledaenu dros filltiroedd lawer sy’n ymddangos yn anghysbell, yr Hen Ffyrdd di-dor sy’n wincian o dan argaen duwioldeb y capel, sugndraeth colled - o ffermydd i goed conwydd, diwydiant i adfeilion rhydlyd, poblogaeth i ‘bobl o ffwrdd’, Cymraeg i Saesneg - roedd hynny’n sail i’r cyfan.

Mae gwaith Carwyn Evans yn chwarae gyda’r newid hwn mewn persbectif. Mae’n treiddio at fanylion lleiaf y plot a esgorodd arno, ac yna’n ein tynnu’n ôl i gymryd golwg ehangach cyn ein plymio yn ôl i mewn eto. Os yw hynny’n gwneud i’r cyfan ymddangos yn gymysglyd ac yn gwrthddweud ei hun, yna ni ddylai fod felly, oherwydd ei dalent clir fel artist, ynghyd â synhwyrau effro o ddynoliaeth a hiwmor, sy’n atal anhrefn o’r fath. Mae’r gwreiddiau a welwn yma, fel yn y portreadau o gartref ei blentyndod a’i rieni, neu’r teclynnau a luniodd eu dwylo, yn helpu i’w leoli ar y map, ond dyw hynny yn dweud dim ond rhan o’r stori.

I ddechrau, lleolir y dylanwadau hyn mewn ardal rydw i ers amser hir wedi dadlau sy’n ateb Cymru i Driongl Bermiwda: glannau Teifi sy’n ffindir rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, ardal sy’n herio rhaniadau confensiynol o deyrngarwch sirol, gwleidyddiaeth, trefol / gwledig a diwydiant / amaethyddiaeth. Faint bynnag o weithiau yr af yno, rwyf bob amser yn mynd ar goll i lawr ffyrdd na allaf eu cofio o ymweliadau blaenorol; mae’n ymddangos yn amhosib ei hadnabod.

Os yw ei wreiddiau ef yno yn y gornel anodd ei hadnabod hon o Gymru, mae canghennau Carwyn wedi lledaenu ymhell ac yn agos. Mae’n un o griw cynyddol o’r gorllewin a’r gogledd gwledig sydd wedi ail-fywiogi’r brifddinas, Caerdydd, ac wedi dyblu ei chyfran o siaradwyr Cymraeg mewn llai nag ugain mlynedd. Yn y cyfamser, mae’r iaith wedi llithro ymhellach yn ei chadarnleoedd ei hun, o dan bwysau diboblogi gwledig, globaleiddio a symudiad di-ildio pobl ar draws ffiniau cenedlaethol. Yn Llanybydder, y dref farchnad fechan ar lannau afon Teifi er enghraifft daw deuparth y 420 o weithwyr yn lladd-dy Dunbia (Oriel Jones gynt) o wledydd tramor, gwlad Pwyl yw'r amlycaf, cyfran sy’n amhosib eu colli mewn dyffryn yng ngorllewin Cymru. Mae persbectif yn newid, wrth chwyddo i mewn ac allan, neidio ar draws ffiniau ac ailsefydlu ei hun gydag anesmwythder cyflym sydd weithiau yn ddigon i’ch drysu. Mae’r olygfa yn ddiamser ac yn ddiflanedig, ein her fwyaf a’n cyfle mwyaf beiddgar. Mike Parker, Ionawr 2009

Mae Mike wedi ysgrifennu pum argraffiad o’r Rough Guide to Wales a dyma’r unig awdur sydd wedi cyd-ysgrifennu’r Rough Guide i Loegr, yr Alban a Chymru yn ogystal a bod â saith o lyfrau tywys eraill wedi eu cyhoeddi (gan Harrap a GMP) i rannau o Brydain ac Iwerddon. Mae Mike yn cyfrannu erthyglau yn rheolaidd i Planet: the Welsh Internationalist (gan ennill gwobr Attitude 2001 am ddarn gorau y flwyddyn) ac mae wedi ysgrifennu i lawer o bapurau yng Nghymru ac yn y DU. Gwelodd ei gyfres, Coast to Coast ar ITV Cymru (2003-4) Mike yn hwylio o amgylch arfordir Cymru gyfan ac yn ystod ei brosiect i HTV ar ôl hynny a ddangoswyd yn 2008, Great Welsh Roads, gwelwyd ef a’i gi ffyddlon yn crwydro Cymru mewn camper fan, gan chwilio am y rhyfeddol, y doniol a’r abswrd. Cyhoeddwyd ei lyfr Neighbours from Hell?, a gyhoeddwyd gan y Lolfa, yn edrych ar hanes agweddau’r Saeson at Gymru a’r Cymry, yn 2007. Cyhoeddir ei lyfr nesaf Map Addict, astudiaeth fywiog ac annwyl o le mapiau yn ein hanes a’n diwylliant, gan Harper Collins yng ngwanwyn 2009. Mae Mike Parker yn byw yn nyffryn Dulas yng nghanolbarth Cymru, ger prifddinas hanesyddol Cymru, Machynlleth.