Dosbarthiadau Bywluniadu Paul Webster

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r ... mwy >

Rangoli: Art that Binds

Following the success of the 2017 Rangoli: Art that Binds project, as part the India/ Wales season of events with the mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
 
Llun-Gwener 10yb-5yh
Sadwrn 10yb-4yh
 

 

 

Traethodau

Proses Cof: Gwaith newydd gan William Roberts

Arddangosfa: William Roberts
Dyddiad: Ebrill 2008
Ysgrifennydd: Antoinette McKane
Cyhoeddiad: William Roberts
Cyhoeddwr: Oriel Davies Publications

Mae synfyfyrio ynglyn â phroses a rhyfeddu at gof yn nodweddu gwaith William Roberts. Fel myfyriwr BA ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion roedd Roberts bob amser yn rhyfeddu at bosibiliadau technegol paent. Byddai’n aml yn rhoi’r gorau i’r brws i arbrofi gyda dulliau eraill o gymhwyso paent. Roedd hefyd yn ymchwilio i iaith a mecaneg gwneud printiau – disgyblaeth sy’n dibynnu ar broses oedd yn dod â syniadau a llwybrau gwahanol ar gyfer ei ddefnydd arbrofol parhaus o baent. Ar ôl graddio ym 1999, treuliodd yr artist nifer o flynyddoedd yn gweithio ac yn teithio yn Awstralia a Seland Newydd, gan ddogfennu’r teithiau hyn gyda chipluniau ffotograffig. Yn 2004 dychwelodd Roberts i Gaerdydd, a’r tro hwn i wneud MA yn UWIC.

Yn ystod ei MA dechreuodd Roberts ddatblygu proses gymhleth a gyflawnwyd ar baneli pren mawr. Gan weithio gyda’r cynhalydd yn fflat ar y llawr, roedd yr artist yn gyntaf yn gosod emwlsiwn i lawr wedi ei daenu gyda theclyn eisio cacen, ynghyd â phapur wal boglynnog ar ffurf collage, gan greu delweddau mewn cerfwedd bas. Yna gorchuddiodd yr arwyneb amlwead hwn gyda haenau olynol o emwlsiwn mewn gwahanol liwiau. Roedd rhan olaf y broses yn cynnwys techneg boenus o hir a manwl o sandio’r arwyneb amlwead gyda sandiwr trydan i ddatgelu unwaith eto'r ddelwedd a’r haenau lluosog o liw oddi tanodd. Mae Roberts yn cyfeirio at y peintiadau cynnar hyn fel ‘tirluniau chwedlau tylwyth teg’. Er ei fod yn cyfeirio at amrywiaeth o idiomau a ffynonellau, fel dylunio ffabrig, graffiti modern, tirlun trefol a gemau cyfrifiadurol, mae’r delweddau sy’n ymddangos yn edrych yn rhai ‘chwedlonol’ - damhegion neu chwedlau wedi eu trosglwyddo i lawr y cenedlaethau, ac wedi eu lliwio’n wahanol gan bob cenhedlaeth olynol o storïwr. Cyfeirir at gof ‘hynafol’ a ‘chyffredinol’ drwy ddefnyddio patrwm sy’n cael ei ailadrodd, siapiau, llinellau a symbolau, sy’n eich atgoffa am beintio defodol yr Aboriginies a cherfiadau cerrig y Celtiaid. Roedd gan yr agweddau hyn ar wneud lluniau arwyddocâd personol i artist Cymreig a oedd newydd ddychwelyd o Awstralia.

Gan chwilio am ddelweddaeth newydd ar gyfer corff newydd o waith, dechreuodd Roberts drwy ddefnyddio ffotograffau o’i deithiau. Defnyddiodd hefyd bortreadau grwp a ganfu ar y rhyngrwyd. Roedd y delweddau hyn, honnai, yn bwysig nid oherwydd eu cynnwys, ond oherwydd y safbwynt y maent yn ei gynnig i’r gwyliwr – fel twrist chwilfrydig neu un oedd yn syrffio’r we. Yn fwy diweddar, derbyniodd Roberts bentwr o luniau teuluol ac mae bellach yn seilio llawer o’i gyfansoddiadau ar y ffotograffau personol hyn, ac wrth wneud hynny mae’n ymddangos fel pe bai’n ymchwilio i agwedd fwy personol ar ‘gof’. Unwaith eto gan weithio gyda chynhalydd yn fflat ar y llawr, mae’n dechrau’r broses drwy osod fersiwn wedi ei wneud yn fwy o ffotograff y tu ôl i blât o wydr, y mae wedyn yn ei amlinellu mewn paent acrylig yn uniongyrchol ar y gwydr. Yna gwasgir y gwydr wedi ei beintio yn erbyn cynfas a thynnir y gwydr ymaith, gan adael y ddelwedd wedi ei gwyrdroi fel monoprint ar y cynhalydd. Mae’r broses hon yn gorfodi’r artist i weithio gyda golwg wrthdro o’r ddelwedd – ac yn gosod Roberts yn llythrennol ar ochr arall y peintiad i’r gwyliwr. Mae’r gwyliwr yn parhau y tu allan i’r olygfa – voyeur, efallai, ar blentyndod yr artist.

Cymerir proses gymhleth Roberts rai camau ymhellach mewn rhai enghreifftiau. Weithiau mae’n defnyddio haen denau fel seloffan o blastig rhwng y plât gwydr a’r peintiad. Yna gall y ffilm o blastig a phaent gael ei symud o’r gwydr, ei osod ar arwyneb y cynfas a’i lapio o amgylch ei ymylon. Mewn darnau eraill, bydd Roberts yn peintio’n uniongyrchol ar wydr, ond yn hytrach na throsglwyddo’r ddelwedd, caniateir i’r plât gwydr sticio i mewn i’r cynfas - yr unig adlynydd yn yr achos hwn yw’r paent ei hun. Mae gan Roberts ddiddordeb yn sut mae’r technegau hyn yn newid nid yn unig gwrthrych y peintiadau, ond hefyd sut y maent yn cael eu hystyried - mae ffilm blastig yn trawsnewid peintiad yn declyn newydd gloyw, neu mae darn o wydr yn efelychu sgrin cyfrifiadur. Fel gwyddonydd sy’n gwasgu sbesimen byw rhwng sleidiau er mwyn craffu arno o dan ficrosgop, mae Roberts yn cael ei ryfeddu gan y modd y mae paent yn symud o dan wydr. Gall ei arbrofion ddatgelu pethau annisgwyl: lledaeniad deinamig paent; y patrwm anghyffredin lle mae dau liw yn gwrthod cymysgu; neu gipolwg ar gynfas moel. I Roberts er hynny, prif arwyddocâd defnyddio plastig a gwydr yn ei broses yw eu gallu cynhenid i gyfathrebu’r broses y gwneir y peintiadau drwyddynt. Dangosir awydd Roberts hefyd i ddileu’r dirgelwch ynghylch y broses o gynhyrchu artistig yn ei deitlau disgrifiadol, sy’n rhoi manylion am y dechneg yn ogystal â’r deunyddiau a ddefnyddir - er enghraifft ‘croen acrylig o wydr ar gynfas’ yn hytrach na dim ond ‘acrylig ar gynfas’. Mae’r strategaethau hyn, ynghyd â’r hyn a bennir gan ei brosesau, yn pellhau ei waith oddi wrth syniadau o athrylith artistig ac yn hyn o beth, mae Roberts yn cydnabod dylanwad y peintiwr Eidalaidd, Rudolf Stingel, a gyhoeddodd lyfryn manwl o gyfarwyddiadau yngl?n â sut i gynhyrchu replica o’r gwaith yr oedd yn ei arddangos.

Nodwedd arall y mae Singel a Roberts yn ei rannu yw ymrwymiad i wthio’r ffiniau a’r diffiniadau o beintio, ac yn y corff newydd hwn o waith, mae rhai o beintiadau Roberts wedi meddiannu ffurf bron yn gerfluniol. Mae’r artist wedi datblygu techneg, gan ddefnyddio clai i greu peintiadau 3 dimensiwn. Mae’n defnyddio ei ddwylo mewn ffordd uniongyrchol a chwareus, gan wasgu’r clai (a’r ddelwedd) yn ddwfn iddo’i hun. Yna mae’r darn trwchus o glai yn gweithredu fel mowld y peintir y paent acrylig arno mewn haenau. Wedi iddo sychu, tynnir y paent o’r slab, gan arwain at greu cynrychiolaeth 3 dimensiwn o’r ddelwedd glai wreiddiol. Mae’r cysylltiadau a awgrymir gan ddefnyddio clai – at ‘blentyndod’, ‘chwarae’, ‘cartref’ a ‘domestig’ yn cael eu tynnu allan ymhellach yn nelweddaeth y gweithiau 3 dimensiwn hyn – ffrâm drych addurniadol, droriau, canllaw grisiau pren - y math o eitemau a fyddai’n bresennol ym mherthynas plentyn â’r byd wrth i’r berthynas honno ddatblygu. Yn nodweddiadol, mae Roberts wedi dechrau gwthio hyd yn oed y broses hon ymhellach, drwy gynnwys gwrthrychau gwirioneddol o gartrefi i’w waith diweddar. Gallai er enghraifft ddefnyddio llenni net fel stensil ar gyfer pensil liw.

Ynghyd â’r prosesau hyn sydd newydd eu datblygu, mae Roberts yn parhau i ddefnyddio’r dechneg sandio a ddatblygwyd ac a berffeithiwyd yn ei ‘dirluniau chwedlau tylwyth teg’ cynnar. Defnyddir paent yn awr er hynny i greu delweddau o gipluniau teuluol, tra mae’r defnydd o bapur wal boglynnog ac emwlsiwn a ddefnyddir yn y cartref wedi dechrau cyfeirio’n benodol at y ‘cartref’ ac atgof am fywyd teuluol. Mae’n ymddangos fod defnydd Roberts o liw wedi tawelu a symud i ryw raddau – gan awgrymu efallai arlliwiau brown ac oren ffotograff sepia. Mae’r peintiadau hyn hefyd yn llai, gan adlewyrchu eu testunau mwy domestig. Mae unffurfedd maint y cynfas drwy’r corff newydd hwn o waith yn dwyn i gof un o’r dylanwadau eraill ar Roberts, sef Tomma Abts sy’n gweithio ar gynhalydd o faint cyson 48 x 38 cm. Wrth gyfeirio at waith Abts, sy’n cymryd teitlau ei phentiadau o lyfr o enwau Almaenig i fabanod, mae Roberts wedi seilio teitlau ei waith newydd ar enwau’r artistiaid graffiti sy’n ymddangos yn y llyfr celf cyntaf a ddaeth i’w feddiant - Spray-Can Art gan Henry Chalfant a James Prigoff. Mae’r teitlau tafod yn y boch hyn yn ychwanegu joch priodol o wrthryfel glaslencyndod at themâu domestig gwaith Roberts.

Gallai rhai o ddatblygiadau diweddar Roberts awgrymu y bydd ei waith yn y pen draw yn arwain at arddangosfa o wrthrychau ffisegol eu hunain. Mae Roberts er hynny wedi dweud y byddai defnyddio gwrthrychau a ganfuwyd o ddiddordeb dim ond pe gallai eu cuddio mewn cotiau o baent, oherwydd iddo ef, mae defnyddio paent a phrosesau peintio a thema cof wedi eu cysylltu’n anorfod â’i gilydd. I Roberts, mae paent yn gyfrwng a all fod yn arwydd o ddetholedd a goddrychedd cof ei hun. Nid yw cof fyth yn statig, fyth yn ddogfennol, ond yn ddehongliad sy’n newid yn barhaus ac yn ailwerthusiad o ddigwyddiadau’r gorffennol. Mae arfer a phrosesau Roberts sy’n esblygu’n gyson - gwthio paent yn ôl tu ôl i wydr, ei gynnwys o fewn plastig, ei sandio - yn drosiadau perffaith ar gyfer y ffyrdd yr ydym yn gwthio’n ôl, yn cynnwys, yn ail-fyw ac yn llathru atgofion.

Mae gwaith Roberts yn hynod o bersonol, eto mae rhywbeth sy’n gyffredinol iawn ynddo am ryfeddod byd domestig ein plentyndod. Os, fel y dywed yr hen air, ‘i wybod ble rydym yn mynd, rhaid inni wybod o ble rydym wedi dod’, yna mae gallu Roberts i dapio i mewn i’w orffennol a’i ail-ddychmygu mor fyw yn gwneud i’w ddyfodol ei hun ymddangos yn llachar iawn.

Derbyniodd Antoinette McKane ei BA (2006) a’i MA (2007) mewn Hanes Celf o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae’n ysgrifennu ar gelf modern a chyfoes a gwaith orielau ac yn gwneud ymchwil ar gyfer doethuriaeth ar hyn o bryd yn Amgueddfa Tate Lerpwl.