IN-CONVERSATION EVENT with Phyllida Barlow CBE RA and Cecile Johnson Soliz.

We are delighted to welcome Phyllida Barlow CBE RA who will be in conversation with Cecile Johnson Soliz. Booking and further information ... more >

Exhibition Opening | Twist - Cecile Johnson Soliz

Exhibition Opening & Launch Event Saturday 29 June, 2.00pm - 5.00pm Twist ... more >

Life Drawing Classes

These fun, tutored sessions encourage individual strengths whilst exploring different aspects of drawing the human figure. The sessions are designed to ... more >

Oriel Davies Gallery
The Park, Newtown
Powys SY16 2NZ
Telephone: +44 (0) 1686 625041
Fax: +44 (0) 1686 623633
Email: desk@orieldavies.org

 

Monday-Friday 10am-5pm
Saturday 10am-4pm


 

 

 

Cyfleoedd

Gemyddion a gwneuthurwyr

Rydym bob amser yn edrych am emyddion sy’n datblygu a rhai sefydledig ar gyfer Siop yr Oriel. Os ydych chi’n emydd neu’n wneuthurwr sydd eisiau cyflwyno gwaith, lawrlwythwch y manylion cyflwyno >

Cyflwyniadau gan artistiaid

Caiff prif raglen yr arddangosfa ei chynllunio hyd at ddwy flynedd o flaenllaw, ac mae’r rhan fwyaf o’r arddangosfeydd yn cael lle o ganlyniad i wahoddiad uniongyrchol gan yr oriel. Fodd bynnag, rydym hefyd yn annog artistiaid a churaduron i gyflwyno cynigion. Os ydych chi’n dewis cyflwyno gwaith, byddwch yn amyneddgar a chaniatewch hyd at dri mis iddo gael ei ystyried. Nid ydym yn debygol o gynnal arddangosfa un person gan yr un artist mwy nag unwaith pob pum mlynedd. Lawrlwythwch y meini prawf a’r canllawiau cyflwyno >

Yn ogystal, gallai eich gwaith fod yn addas/gymwys ar gyfer rhaglen Test Bed Oriel Davies, sydd wedi’i hymroddi i arddangos gwaith newydd ac arbrofol sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru a’r Gororau. Rhagor o wybodaeth am gyflwyno ceisiadau ar gyfer rhaglen Test Bed >

Comisiynau & Chystadlaethau

Mae Oriel Davies yn hysbysebu ei chomisiynau, prentisiaethau preswyl a’i phrosiectau yn Genedlaethol. Mae cyfleoedd bob amser yn cael eu postio ar y wefan hon a thrwy gylchlythyr ODG. Sicrhewch eich bod yn derbyn gwybodaeth a Chofrestrwch i dderbyn yr e-gylchlythyr >

Prentisiaethau preswyl a lleoliadau gwaith

Ar brydau, mae Oriel Davies yn cynnig prentisiaethau preswyl drwy’r cynllun Test Bed a hefyd, lleoliadau gwaith mewn meysydd eraill. Cysylltwch â’r aelod perthnasol o staff yn yr adran yr hoffech chi ennill profiad ynddi. Fel arall, cysylltwch â Helen Lawson: helenl@orieldavies.org i gael gwybodaeth gyffredinol ynghylch lleoliad gwaith. 

Arweinwyr Gweithdai

Mae’n bleser gan Oriel Davies glywed bob amser gan artistiaid/addysgwyr cymwys a phrofiadol sydd â sgiliau arbennig. Mae cyfleoedd hefyd i ymarferwyr llai profiadol i ennill profiad fel cynorthwywyr gweithdai. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Clare Martin, Swyddog Addysg (dysgu anffurfiol) ar 01686 625041 neu anfonwch e-bost: clare@orieldavies.org gyda’ch Braslun Gyrfa a llythyr cais.

Gwirfoddolwyr

Dewch yn rhan o un o’r orielau celf fwyaf bywiog yng Nghymru. Rydym bob amser yn edrych am wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda phob agwedd o fywyd yr oriel, o oruchwylio a chynnal gwaith gweinyddu ar gyfer arddangosfeydd, i farchnata. Os oes gennych chi sgiliau arbennig a hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch ag Amanda Farr ar 01686 625041 neu anfonwch e-bost: amanda@orieldavies.org

Swyddi

Dim ond tîm bychan o staff sydd gan Oriel Davies ac nid yw cyfleoedd am swyddi yn dod ar gael yn aml. Fodd bynnag, pan mae rhai yn dod ar gael, cant eu hysbysebu’n eang ac ar y wefan hon. Nid oes unrhyw swyddi gwag ar gael ar hyn o bryd. Sicrhewch eich bod yn derbyn gwybodaeth a Chofrestrwch i dderbyn yr e-gylchlythyr >