Cymraeg

Criw Celf

Mae Criw Celf yn rhaglen greadigol ar gyfer pobl ifanc sydd ag angerdd am y celfyddydau gweledol.

Mae Oriel Davies yn dod â phobl ifanc 12 I 18 oed ynghyd i brofi celf weledol gyfoes trwy weithdai, ymweliadau â stiwdios artistiaid ac orielau cyhoeddus a digwyddiadau.

Nod Criw Celf yw dathlu cyfoeth diwylliant Cymru ac amrywiaeth ein cymunedau; a dychmygu gweledigaethau cadarnhaol o'r dyfodol.

Criw Celf yn gweithio gyda Chwarae Teg. Credyd llun Lauren Heckler

Cymerwch ran yn Criw Celf 2023 !

Rydym nawr yn lansio rhaglen Criw Celf eleni ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb brwd yn y celfyddydau gweledol. Bydd rhaglen eleni yn rhedeg am gyfnod estynedig dros dymor y Gwanwyn, yr Haf a’r Hydref.

Bydd y rhaglen yn ymgysylltu â rhai o artistiaid mwyaf cyffrous ac amrywiol Cymru. Byddant yn gweithio gyda rhaglen ysbrydoledig yr oriel o arddangosfeydd a digwyddiadau a gyda’n themâu cyfredol - ymdeimlad o le, lles a’r amgylchedd.

Mae Criw Celf yn cefnogi ac yn annog pobl ifanc i ddatblygu meddwl creadigol, sgiliau a dyheadau trwy brofiadau celf weledol gyfoes. Trwy'r rhaglen mae pobl ifanc yn gweithio gydag artistiaid, yn rhannu syniadau creadigol ac yn gwneud ffrindiau newydd.

Yn 2022 bu pobl ifanc yn gweithio gyda’r artistiaid Mo Hassan, Lisa Carter Grist, Christine Mils, Billie Ireland a’r cydweithwyr Emma Beynon a Lauren Heckler o Chwarae Teg.

Arlunio Rembrandt gyda Christine Mills

Mae rhaglen 2023 yn cynnwys:

Profiad ymarferol mewn gweithdai mewn amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol.

Arddangosfeydd cyfoes yn Oriel Davies Gallery

Sgiliau a beirniadaethau a ddarperir gan artistiaid

Gweithdai ar-lein

Ymweliad ag orielau celf/stiwdio artistiaid eraill

Dysgu am yrfaoedd creadigol fel curadu a phrofiad ymwelwyr

Criw Celf yn gweithio gyda Chwarae Teg. credyd llun Lauren Heckler

Sut i wneud cais ar gyfer Criw Celf 2023

Cwblhewch y ffurflen gais gyda rhiant neu ofalwr

• Anfonwch luniau o ansawdd da atom o ddau o'ch hoff ddarnau o waith diweddar.

• Dywedwch wrthym am artist byw sy'n eich ysbrydoli a pham. Hoffem wybod pam mae bod yn greadigol yn bwysig i chi. Rhannwch hwn mewn datganiad byr (uchafswm o 200 gair), recordiad llais neu fideo.

• Anfonwch at kate@orieldavies.org

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - DYDD SADWRN 11 CHWEFROR 2023

Rydym am wneud y broses ymgeisio mor hygyrch â phosibl. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob lefel o brofiad mewn unrhyw gyfrwng.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl ifanc sy'n cael eu tangynrychioli yn y celfyddydau a diwylliant cyfredol. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, artistiaid ifanc o liw, artistiaid ifanc anabl, LGBTQIA+ a phobl ifanc anneuaidd, a phobl ifanc sy'n ystyried eu hunain yn ddosbarth gweithiol.

Mae ffi o £35 yn daladwy wrth dderbyn sy’n cynnwys costau’r holl weithgareddau, deunyddiau a thripiau. Mae lleoedd am ddim ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais, cysylltwch â Kate ar 01686 625041 neu e-bostiwch kate@orieldavies.org

You might also be interested in...