Artes Mundi 10, Partner Cyflwyno: Sefydliad Bagri
ARDDANGOSFA EILFLWYDD Y DEGFED RHIFYN
20 Hydref 2023 - 25 Chwefror 2024
Gyda’i bartner cyflwyno, Sefydliad Bagri, bydd Artes Mundi 10 (AM10), prif wobr celf gyfoes ryngwladol ac arddangosfa eilflwydd y DU, am y tro cyntaf yn cyflwyno saith o artistiaid gweledol cyfoes rhyngwladol ar draws pum partner lleoliad yng Nghymru ar gyfer ei ddegfed rhifyn. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 20 Hydref 2023 a 25 Chwefror 2024 a bydd enillydd Gwobr nodedig Artes Mundi, sy’n werth £40,000 – gwobr celf gyfoes fwyaf y DU – yn cael ei gyhoeddi yn ystod y cyfnod arddangos.
Yn AM10 bydd pob artist yn cyflwyno prosiect unigol mawr, gan gynnwys cynyrchiadau newydd, gwaith nas gwelwyd o’r blaen a chyfle i weld sawl arddangosfa am y tro cyntaf yn y DU. Mae rhai artistiaid yn cyflwyno ar draws nifer o leoliadau, a bydd gan bob artist waith mewn lleoliad yng Nghaerdydd.
Dyma leoliadau arddangos yr artistiaid ar gyfer AM10: Mounira Al Solh, Rushdi Anwar ac Alia Farid yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd (un yn nheulu Amgueddfa Cymru – Museum Wales o amgueddfeydd); Nguyễn Trinh Thi yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd; Taloi Havini ym Mostyn, Llandudno a Chapter, Caerdydd; Carolina Caycedo yn Oriel Davies, y Drenewydd a Chapter, Caerdydd; a Naomi Rincón Gallardo yn Chapter, Caerdydd.
Dywedodd Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi: “Mae AM10 yn argoeli i fod yn gyfres gyffrous a meddylgar o gyflwyniadau. Gan weithio gyda phob artist a’n partneriaid yn y lleoliad, rydym mewn sefyllfa i gyflwyno cyfres o sioeau treiddgar sydd gyda’i gilydd yn edrych ar agweddau ar ddefnydd tir, tiriogaeth a dadleoliad drwy hanes newid amgylcheddol, gwrthdaro a mudo dan orfod, amodau sydd i gyd â rhywbeth i’w ddweud wrth bob un ohonom ni heddiw.”
Fel cyfrwng cyfnewid diwylliannol pwysig rhwng y DU a chymunedau rhyngwladol, mae Artes Mundi wedi ennill enw iddo’i hun am ddwyn ynghyd gelfyddyd gan rai o’r lleisiau artistig mwyaf perthnasol sy’n ymdrin â phynciau mawr ein hoes. Yn y gorffennol, mae Artes Mundi wedi gweithio gydag artistiaid yn ystod cyfnodau allweddol yn eu gyrfaoedd,
a dyma’n aml y tro cyntaf iddynt gyflwyno’u gwaith i gynulleidfaoedd yn y DU, gyda llawer ohonynt bellach yn enwau cyfarwydd ar y llwyfan rhyngwladol, gan gynnwys Dineo Seshee Bopape, Prabhakar Pachpute, Ragnar Kjartansson, Theaster Gates, John Akomfrah, Teresa Margolles, Xu Bing, a Tania Bruguera.
Carolina Caycedo, Tanwydd i Dân (delwedd o hyd), 2023. Fideo, lliw, sain. Comisiynwyd gan Sharjah Biennial 15: Thinking Historically in the Present. Trwy garedigrwydd yr artist. ©Carolina Caycedo.
Carolina Caycedo yn Oriel Davies, y Drenewydd a Chapter, Caerdydd
Ganwyd yn y Deyrnas Unedig i rieni o Golombia. Mae hi'n byw ac yn gweithio yn UDA.
Mae Carolina Caycedo yn artist amlddisgyblaethol sy’n adnabyddus am ei fideos, llyfrau artist, cerfluniau a gosodweithiau sy’n ymdrin â materion amgylcheddol a chymdeithasol. Yn Oriel Davies yn y Drenewydd, bydd Caycedo yn cyflwyno cyfres o weithiau hen a newydd gan gynnwys dangosiad cyntaf y fideo, Fuel to Fire (2023). Mae hyn yn cyflwyno’r gwyliwr i pagamento, sef protocol sylfaenol ecolegol ac economaidd cynhenid, sy’n cynnal llif a chydbwysedd cylchoedd bywyd ar y ddaear ar sail dwyochredd. Hefyd, cyflwynir y gyfres gysylltiedig Fuel to Fire: Mineral Intensive (2022 ac yn parhau), lluniadau pensil lliw newydd ar raddfa fawr o gyfres sy’n canolbwyntio ar arferion echdynnu a’u heffaith ar y tir. Mae proses a chyfranogiad yn ganolog i ymarfer Caycedo – gan ddefnyddio gwybodaeth hysbys a fframweithiau brodorol a ffeministaidd, mae’n gwahodd gwylwyr i ystyried cyflymder anghynaliadwy twf o dan gyfalafiaeth a sut y gallem wrthsefyll hynny mewn undod. Yn My Female Lineage of Environmental Struggle (2018 i’r presennol), mae dros 100 o bortreadau o amgylcheddwyr benyw o bob cwr o’r byd, gan gynnwys menywod a gymerodd ran yng ngorymdaith Comin Greenham, yn cael eu hargraffu ar faner tecstil fel rhan o’r gyfres Geneology of Struggle a fydd yn eistedd ochr yn ochr â detholiad o faneri gwreiddiol Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham o gasgliadau Cymreig. Gan gysylltu â’r gwaith yn Oriel Davies, bydd Caycedo yn cyflwyno gwaith newydd o’i phrosiect amlgyfrwng Be Dammed (2012 ac yn parhau) yn Chapter, Caerdydd. Wedi’i leoli yn y blwch golau uwchben mynedfa’r adeilad, mae’r gwaith delweddau a thestun mawr yn edrych ar effaith argaeau trydan dŵr a phrosiectau seilwaith mawr eraill ar gymunedau a’r amgylchedd.