Cymraeg

Chwarae Creadigol i Deuluoedd

Sesiwn Hanner Tymor

28 Hydref 2026 - 28 Hydref 2026

Sesiwn chwarae creadigol ddwyieithog hanner tymor i deuluoedd gyda Clara Lloyd

Mae'r sesiwn hon yn addas ac yn agored i bawb.

Archebwch le AM ​​DDIM i bob aelod o'r teulu

Dydd Mercher 28 Hydref 10.30am - 12pm

Neu

Dydd Mercher 28 Hydref 1.30pm - 3pm

manual override of the alt attribute

Chwarae creadigol hanner tymor i deuluoedd gyda Clara Lloyd

Sesiwn chwarae creadigol wedi'i hysbrydoli gan yr arddangosfa gyfredol, Unruly:Expand.

Mae Unruly: Expand yn dwyn ynghyd waith gan artistiaid ac ymarferwyr creadigol a fu'n goruchwylio arddangosfa Cymru yn Fenis yn Biennale Fenis 2026.

Bydd ein sesiwn chwarae creadigol yn cynnig amrywiaeth o ddeunyddiau a digon o le yn Oriel 2 i ddychmygu'r profiad o dreulio amser yn Biennale Fenis.

Mae'r sesiwn hon yn addas ac yn agored i bawb.

Archebwch le AM ​​DDIM i bob aelod o'r teulu

Dydd Mercher 28 Hydref, 10.30am - 12pm

Neu

Dydd Mercher 28 Hydref 1.30pm - 3pm

Clara

Clara Lloyd

Mae sesiynau chwarae creadigol Clara gyda phlant a theuluoedd yn cyfuno archwilio llawen â dyfnder ei harbenigedd ym maes therapi a datblygiad plant. Gan dynnu ar ei chefndir mewn Therapi Chwarae a Chelf Greadigol, mae hi’n creu mannau dychmygus sy’n llawn profiadau synhwyraidd, lle mae plant yn teimlo’n ddiogel i fynegi eu hunain, cysylltu ag eraill a dilyn eu chwilfrydedd. Mae pob sesiwn yn un hwyliog a chynnes, ond eto’n seiliedig ar ymrwymiad Clara i les emosiynol, creadigrwydd ymwybodol, a meithrin ymdeimlad pob plentyn o hyder a rhyfeddod.

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad Gwybodaeth am Docynnau
Creative Play For Families £0.00 PP*
Creative Play For Families 1.30pm -3pm £0.00 PP*
Cyfanswm:

*Fesul person

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau

Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.