Cymraeg

Amdanom ni

Mae Oriel Davies Gallery yn oriel gelf gyhoeddus allweddol o Gymru, wedi’i lleoli yn y Drenewydd, Powys wledig sy’n cyflwyno celf o safon fyd-eang, sy’n procio’r meddwl ac yn heriol gan artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol mewn amgylchedd sy’n groesawgar, yn ddifyr, yn llawn gwybodaeth ac yn rhad ac am ddim. Mae’r Oriel a’r mannau arddangos yn gyfeillgar i deuluoedd, yn hygyrch yn gorfforol ac yn ddelfrydol ar gyfer profi celf gyfoes.