Cymraeg

#2: Cors Caron

Sownd [ar safle]

11 Gorffennaf 2026 - 11 Gorffennaf 2026

Ceredigion

11.07.26

Manon Awst + Dylan Huw,

Naomi Pearce,

good cop bac cop / the Mike Pearson Archive


manual override of the alt attribute

Mae Sownd [ar safle] yn gyfres o dri digwyddiad byw, safle-benodol ar gorsydd ledled Cymru – gwahoddiad i fynd yn sownd yn safleoedd gwlyb ac ansefydlog. Mae’n rhan o Sownd, prosiect ar gyfer y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia. Bydd y rhaglen yn digwydd ar gorsydd ar draws Cymru, wedi eu cydlynu gan yr artistiaid Manon Awst a Dylan Huw, gyda thîm curadurol Sownd ac artistiaid gwadd.

Mae Sownd [ar safle] yn gwahodd artistiaid a chynulleidfaoedd yng Nghymru i suddo'n ddyfnach i themâu a deunyddiau Sownd. Sail yr arddangosfa yn Fenis a'r rhaglen safle-benodol hon yw ymchwil Manon Awst a Dylan Huw ar fawndiroedd: amgylcheddau gludiog ac ansefydlog, sy'n cuddio ac yn datgelu graddfeydd eang o hanes materol. Mae'r safleoedd hyn, sy’n gyfansawdd o fater organig a chof diwylliannol, yn dod yn ofodau ar gyfer llywio hanesion gwaddodedig iaith, diwylliant ac ecoleg. Mae partneriaeth ryng-ddisgyblaethol Manon a Dylan yn gwahodd cysylltiadau ar draws ffiniau, wedi'u saernïo gan waddol unigryw traddodiadau “byw” barddonol a safle-benodol yng Nghymru.

Lleoliad yr ail digwyddiad yw Cors Caron, ger Tregaron Ceredidion ar ddydd Sadwrn 11eg o Orffennaf 2026 rhwng 2-4yh. Bydd yn cyflwyno ymatebionymatebion byw a gynhyrchwyd yn arbennig i'r safle a themâu'r prosiect gan artistiaid Sownd Manon Awst a Dylan Huw, yr awdur Naomi Pearce, a'r ddeuawd perfformio good cop bad cop, yn gweithio gyda deunydd o archif Mike Pearson.

Bydd bysiau am ddim yn cludo’r gynulleidfa o Aberystwyth a Thregaron; gofynnwn i bawb ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i leihau straen ar y safle.

O Aberystwyth - 1 y.h - Aberystwyth Gorsaf Bws (Outside Mountain Warehouse) SY23 1LL

O Dregaron - 1:45 y.h - Tregaron Talbot Hotel Bus Stop SY25 6JL

Bydd y digwyddiad yn digwydd yn yr awyr agored, gyda hygyrchedd cyfyngedig. Gwiriwch y rhagolygon tywydd cyn y digwyddiad a gwisgwch ddillad addas.

Mae yna toiledau ar y safle.

Bydd y perfformiad yn digwydd rhwng 2-4 y.h



Cysylltwch â lily.cymruynfenis@gmail.com os oes unrhyw gwestiynau.



Sownd [ar safle] #2: Cyfranwyr Cors Caron

Mae Naomi Pearce yn sgwennwr sy’n byw yng Ngheredigion. Disgrifiwyd ei nofel gyntaf, Innominate (MOIST Books, 2023), fel “classic of local archaeology” gan Iain Sinclair. Dan ddylanwad cefndir mewn tecstiliau, mae ei gwaith yn plethu hanesion ffeministaid a chwiar, lle, ecoleg, a celf. Mae ei sgwennu wedi ymddangos yn British Art Studies, LA Review of Books, TON Magazine, a’r White Review. Cymerodd Naomi ran yn rhaglen Awduron Wrth eu Gwaith Gwyl y Gelli eleni, ac mae’n ddarlithydd celf ym Mhrifysgol Aberystwyth.

good cop bad cop yw practis cydweithredol John Rowley a Richard Huw Morgan. Mae’r ddau artist yn cydweithio ers dros dri degawd, gan ddechrau efo’r cwmni perfformio arloesol Brith Gof. Yr hyn sy’n diffinio eu gwaith yw absenoldeb unrhyw ragdybiaethau diogel o ran ffurf a chynulleidfa, ar gyfer “imagined communities” y Gymru fydd, o fewn disgyrsiau rhyngwladol am foddau o ail-ystyried categorïau fel cenedl, diwylliant a chymuned.

Mae Manon Awst yn artist sy’n byw yng Nghaernarfon, ac sy’n gweithio mewn modd safle-benodol gyda cherflunwaith a pherfformio. Bu’n arddangos ei gwaith yng Nghymru ac ar draws Ewrop ers dau ddegawd, gan gynnwys degawd o ymarfer cydweithredol yn Berlin, ac mae ei gwaith yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, Llywodraeth y DG a Senedd Cymru.

Mae Dylan Huw yn sgwennwr ac artist sy’n cydweithio ar draws ieithoedd a disgyblaethau. Cafodd prosiectau diweddar eu cefnogi gan y Jerwood Foundation, Artes Mundi, LUX a Mostyn. Mae ei sgwennu beirniadol wedi ei gyhoeddi gyda Frieze, e-flux ac Art Monthly, ac mae wedi cyrraedd rhestr fer yr International Award for Art Criticism ddwywaith.

logos
Tocynnau Gwybodaeth am Docynnau
#2: Cors Caron £0.00 PP*
Cyfanswm:

*Fesul person

Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.