Cymraeg

Pysgod Mawr / Pysgod Bach

Gweithdai gwyliau'r Pasg i blant 7 - 11 oed

Digwyddiadau | 4 Ebrill 2023 - 4 Ebrill 2023

DYDD MAWRTH EBRILL 4ydd 1.30 - 3.30 PM

manual override of the alt attribute

Mae gweithdai Caredig i’r Meddwl i blant yn dychwelyd ar gyfer 2023 gyda’r artist Nicky Arscott o’r sefydliad celfyddydol Ennyn.

Yn y gweithdy hwn byddwn yn dysgu am y pysgod sy'n byw yn Afon Hafren, ac yn mynd am dro draw i'r afon i weld beth allwn ni ei weld. Byddwn yn gwneud rhai ymarferion cynhesu creadigol i'n cael i feddwl am siapiau a gweadau ac yna'n gwneud pysgodyn o glai i fynd adref gyda ni.

Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch ymlaen llaw.

Addas ar gyfer pob gallu creadigol.

Mae Caredig i'r Meddwl yn rhoi amser i blant ddod i adnabod ei gilydd ac i weithio gydag artistiaid, gan archwilio creadigrwydd trwy weithgareddau ystyriol.

Mae Oriel Davies a’r sefydliad celfyddydol Ennyn wedi dod at ei gilydd i greu cyfres o weithdai i danio’r dychymyg, gan annog plant i chwarae ac archwilio. Fe'u cynhelir yn amgylchedd hamddenol a chroesawgar yr oriel ac yn yr awyr agored yn y parcdir hardd. Yn y gweithdai gall plant arbrofi gyda phrint, collage, paentio, gwneud modelau a chlai.

Sefydlwyd Ennyn gan yr artistiaid o Ganolbarth Cymru Nicky Arscott ac Elin Crowley. Rhyngddynt, mae ganddynt 20 mlynedd o brofiad mewn dyfeisio a chyflwyno gweithdai i blant ac oedolion mewn lleoliadau ysgol ac ar brosiectau cymunedol. Ar gyfer y gweithdai hyn bydd yr artist a'r athrawes Elinor Wigley yn ymuno â Nicky ac Elin.

Hygyrchedd

Mae Oriel Davies ac Ennyn wedi ymrwymo i gefnogi anghenion mynediad ein holl gyfranogwyr ac ymwelwyr. Cysylltwch â ni yn desk@orieldavies.org i drafod gyda staff sut orau y gallwn gefnogi eich profiad.

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad

Gwerthu Allan

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau