Cymraeg

Adar Cardbord

Gweithdai gwyliau'r Pasg i blant 7 - 11 oed

Digwyddiadau | 11 Ebrill 2023 - 11 Ebrill 2023

DYDD MAWRTH 11EG EBRILL 1.30- 3.30PM

manual override of the alt attribute

Mae gweithdai Caredig i’r Meddwl i blant yn dychwelyd ar gyfer 2023 gyda’r artist Nicky Arscott o’r sefydliad celfyddydol Ennyn.

Yn y gweithdy hwn byddwn yn cymryd amser i stopio a gwrando ar y gwanwyn a’r adar y tu allan i’r oriel. Byddwn yn meddwl sut mae adar yn symud. Yna byddwn yn defnyddio papur a chardbord i adeiladu ein hadar ein hunain i fynd adref gyda ni.

Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch ymlaen llaw.

Addas ar gyfer pob gallu creadigol.

Mae Caredig i'r Meddwl yn rhoi amser i blant ddod i adnabod ei gilydd ac i weithio gydag artistiaid, gan archwilio creadigrwydd trwy weithgareddau ystyriol.

Mae Oriel Davies a’r sefydliad celfyddydol Ennyn wedi dod at ei gilydd i greu cyfres o weithdai i danio’r dychymyg, gan annog plant i chwarae ac archwilio. Fe'u cynhelir yn amgylchedd hamddenol a chroesawgar yr oriel ac yn yr awyr agored yn y parcdir hardd. Yn y gweithdai gall plant arbrofi gyda phrint, collage, paentio, gwneud modelau a chlai.

Sefydlwyd Ennyn gan yr artistiaid o Ganolbarth Cymru Nicky Arscott ac Elin Crowley. Rhyngddynt, mae ganddynt 20 mlynedd o brofiad mewn dyfeisio a chyflwyno gweithdai i blant ac oedolion mewn lleoliadau ysgol ac ar brosiectau cymunedol. Ar gyfer y gweithdai hyn bydd yr artist a'r athrawes Elinor Wigley yn ymuno â Nicky ac Elin.

Hygyrchedd

Mae Oriel Davies ac Ennyn wedi ymrwymo i gefnogi anghenion mynediad ein holl gyfranogwyr ac ymwelwyr. Cysylltwch â ni yn desk@orieldavies.org i drafod gyda staff sut orau y gallwn gefnogi eich profiad.

We will be taking time to stop and listen to the springtime and the birds outside the gallery. We will then use paper and cardboard to construct our own birds.

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad

Gwerthu Allan

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau