Cymraeg

Gorsaf Ymgynghori

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi

25 Gorffennaf 2024 - 7 Medi 2024

Galwch draw i'r oriel

manual override of the alt attribute

Yr haf hwn rydym yn gwahodd ein hymwelwyr i alw heibio i’r oriel i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhad ac am ddim fel gwneud zine, darlunio, appliqué, gwneud mapiau a llawer mwy. byddwn hefyd yn gofyn i chi ein helpu i gasglu gwybodaeth ac adborth i gefnogi ein datblygiadau presennol yn yr oriel. Gallwch weld pa gynlluniau y mae gennym gyllid ar eu cyfer eisoes a beth y gallem ei wneud gyda’ch cefnogaeth fel rhan 2 o’r datblygiad.

Celf yw Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru. Ym mis Medi bydd y gwaith o'r diwedd yn dechrau ar y prosiect a bydd cam 1 wedi'i gwblhau erbyn dechrau'r gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Bydd yr adeilad yn cau ganol mis Medi ond bydd yr oriel yn parhau i weithredu mewn lleoliadau eraill yn y gymuned. Rydym yn bwriadu ail-agor yng ngwanwyn 2025.

Ariennir Celf cam 1 gan Lywodraeth Cymru a bydd yn ein gweld yn partneru â’r Amgueddfa Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol ac wyth oriel arall i ddod â’r casgliad cyfoes i’n cymuned dros y blynyddoedd nesaf. Byddwn yn parhau i weithio’n bennaf gydag artistiaid cyfoes.

Bydd y gwaith sy'n cael ei wneud yng ngham 1 yn cynnwys mwy o ddiogelwch a rheolaeth hinsawdd yn ein horielau.

Rydym newydd ddechrau codi arian ar gyfer cam 2 y gobeithiwn ei ddechrau yn 2025. Bydd Cam 2 yn gweld gwelliannau ffisegol o fewn ac o amgylch yr oriel. Rydym eisiau gwneud ein gofod hyd yn oed yn fwy hygyrch, datblygu mannau dinesig, gwella ein gofod manwerthu a chroesawu, stiwdio ddysgu, gwella'r cyfleusterau toiled a'i gwneud hi'n bosibl agor gwahanol barthau o'r adeilad ar wahanol adegau. Rhan fawr o’r cam hwn fydd cynyddu nifer y benthyciadau fel y gallwn ddod â chasgliad y chwiorydd Davies yn ôl i’r ardal, ac adrodd eu hanes a’r effaith y maent wedi’i chael.

Rydym angen eich help drwy rannu syniadau yn yr Orsaf Ymgynghori.

Arolwg Gorsaf Ymgynghori Ar-lein

Consultation Station
Gwybodaeth am y Lleoliad

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau