CYFLE
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cysylltu efo pobl greadigol eraill i ddatblygu eich ymarfer ymhellach?
Mae nifer bach o dicedi am ddim gyda ni ar gyfer Gŵyl Crefft Cymru ar Ddydd Sadwrn 7fed Medi ac y rydym yn awyddus i gysylltu efo artistiaid, crewyr a chrefftwyr i fanteisio ar y cyfle cyffrous yma.
Byddwn yn cynnig trafnidiaeth grŵp i’r rhai sy’n byw yn Sir Trefaldwyn. Bydd yr Ŵyl yn cymryd lle yng Nghastell Aberteifi ac yn cynnwys gweithdai, arddangosiadau, dosbarthiadau proffesiynol, sgyrsiau a mwy!
https://www.craftfestival.co.uk/wales
Mae hwn yn rhan o’n rhaglen Make More // Crefft Mwy sydd wedi cael ei ddatblygu fel parhad o’n digwyddiadau Walkie Talkie a ariennir gan y Sefydliad Teulu Ashley.
I wneud cais, os gwelwch yn dda e-bostiwch desk@orieldavies.org gyda hyd at 200 gair yn disgrifio eich ymarfer creadigol a pham yr ydych â diddordeb mewn cymryd rhan.
Dyddiad cau – min nos ar Ddydd Llun 26 Awst.
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau