Daniel Davies: Sielydd
Cerddoriaeth yn yr oriel: rhan o Croeso Cynnes
Events | 1 Chwefror 2023 - 1 Chwefror 2023
Yn wreiddiol o Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru, astudiodd Daniel y Sielo yn y Coleg Cerdd Brenhinol ac Ysgol y Guildhall. Cafodd hefyd gyfres o ddosbarthiadau meistr gyda’r sielydd clodwiw o Hwngari, Janos Starker. Mae Daniel yn gerddor siambr angerddol ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel cyfarwyddwr artistig Cerddoriaeth Nantwen lle mae’n perfformio mewn gŵyl flynyddol o gerddoriaeth siambr llinynnol gyda ffocws ar Gyfansoddwyr Clasurol Cymreig. Mae'n chwarae ar sielo Ffleminaidd gan wneuthurwr anhysbys sy'n dyddio o 1720. Mae'n byw yng Nghymru gyda'i wraig a phedwar o blant.
Dros y diwrnod bydd Daniel yn chwarae ymatebion byrfyfyr a repertoire sefydledig.