Cymraeg

Delyth Jenkins: Telynores

Cerddoriaeth yn yr Oriel: Rhan o Groeso Cynnes

Events | 10 Chwefror 2023 - 10 Chwefror 2023

Merch y ffin yw Delyth Jenkins.

Cafodd ei geni a’i magu yng Nghroesoswallt, a adnabyddir fel tref Gymreig fwyaf Lloegr. Bob amser yn falch o'i gwreiddiau Cymreig yng nghefn gwlad Sir Drefaldwyn, dim ond ar ôl iddi symud i Abertawe i fynd i'r brifysgol y dechreuodd y gwreiddiau hynny dynnu o ddifrif.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg, iaith ei theulu, ond a oedd, yn dilyn ffasiwn y cyfnod, wedi hepgor cenhedlaeth. Ac yn ei hugeiniau cynnar y deffrowyd ei diddordeb yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru, a dechreuodd ddysgu’r delyn. Methu dod o hyd i athrawes oedd yn arbenigo mewn cerddoriaeth draddodiadol, dysgodd trwy wrando ar eraill a thrwy arbrofi. O ganlyniad mae hi wedi datblygu arddull chwarae sy'n perthyn iddi hi i raddau helaeth iawn.

Yn fuan ar ôl dechrau ar y delyn daeth Delyth yn aelod o’r grŵp Cromlech o Abertawe a oedd, dan arweiniad Tommy Jenkins (dim perthynas), yn un o’r grwpiau arloesol yn yr adfywiad canu gwerin Cymreig. Ac yna, gyda Peter Stacey a Stevie Wishart, aeth ymlaen i ffurfio’r triawd offerynnol hynod glodwiw Aberjaber.

Fel unawdydd ac fel aelod o grwpiau amrywiol, mae Delyth wedi teithio ledled y DU, mewn llawer o wledydd Ewropeaidd, ac yn America.

manual override of the alt attribute
DA573 C66 468 C 4 D39 96 B0 DB62 E21616 A5