Mae Popeth yn Newid / Mae Popeth yr un Peth
Arddangosfa CELF o ffotograffiaeth o’r casgliadau cenedlaethol
Arddangosfa esblygol sy’n cychwyn ar strydoedd Y Drenewydd yn Ebrill 2025, gan symud i’r oriel a datblygu (fel polaroid) dros fisoedd yr haf.

Daw teitl yr arddangosfa o osodiad gan yr awdur Ffrengig Jean-Baptiste Alphonse Karr, a ysgrifennodd “plus ça change, plus c’est la même chose” ym 1849 – po fwyaf mae pethau’n newid, po fwyaf maen nhw’n aros yr un peth. Mae’r gosodiad yn awgrymu ymagweddiad goddefol, gan nodi un ai rydyn ni’n dewis peidio newid, gan gredu na fydd ein gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth, neu rydyn ni’n cofleidio newid, gan ddeall na fydd dim yn gwella hebddo.
Credais fod cysyniad Mae Popeth yn Newid / Mae Popeth yr un Peth yn werth ei archwilio yn y cyd-destun bod yr oriel sydd ar gau ar gyfer gwelliannau, yn ailagor eto ac yn edrych yn union yr un peth.
Mae ffotograffiaeth yn gyfrwng gymharol fodern. Mae ei gwreiddiau yn y camera obscura, dyfais a ddefnyddiwyd am ganrifoedd i daflunio delweddau, ond ymddangosodd ei gallu i’w dal a’u cadw yn y 1880au cynnar gyda dyfeisiadau fel y daguerroteip a’r caloteip, a fraenarodd y tir ar gyfer ffotograffiaeth fodern. Dyfeisiwyd y camera digidol cyntaf yn y 1970au, ac ymddangosodd y camera cyntaf ar ffôn symudol yn Japan ym 1999, a rhyddhawyd yr iPhone cyntaf yn 2007. Felly ar adegau rydyn ni cymryd ffotograffau’n ganiataol, ond maen nhw wedi bod yn dal yr ennyd ers canol y 1880au.
Mae’r delweddau hyn yn ein caniatáu i weld sut mae pethau wedi newid, a hefyd sut mae pethau wedi aros. Yn sylfaenol, fel bodau dynol rydyn ni’n aros yr un, rydyn ni eisiau treulio amser ar ein pennau’n hunain, amser gyda ffrindiau, yn gwneud pethau gyda’n gilydd, yn creu cymuned ddymunol. Rydyn ni’n mynd i siopa, yn ymhél â chwaraeon, yn gwrando ar gerddoriaeth, rydyn ni’n hoffi anifeiliaid, rydyn ni’n hoffi dangos ein pethau diweddaraf, rydyn ni’n creu atgofion. Bydd llawer o’r rhain yn aros ynghudd am flynyddoedd hyd nes bod rhywun yn dod o hyd iddyn nhw ryw ddiwrnod ac y dweud edrychwch mor ifanc oeddech chi, dyma berthynas i fi a fu farw flynyddoedd yn ôl, dyna’r bechingalw oedd gyda ni, ydych chi’n cofio’r ci anwes hwnnw? I’r cenedlaethau hŷn “Enyd Kodak” fyddai’r enydau hyn, aduniadau teuluol, antur gwyliau, neu ryw ddigwyddiad personol, neu efallai roedden nhw’n cofnodi hanes torfol ar gyfer y papur newydd lleol. Gwaetha’r modd, gyda chynnydd technoleg newydd aeth Kodak, a greodd y Brownie ym 1900 ac a gyflwynodd System Camera Digidol (DCS) ym 1991, i’r wal. Maen nhw bellach yn canolbwyntio ar argraffu diwydiannol. Mae popeth yn newid...

Mae’r lleoedd rydyn ni’n eu hadnabod ac yn byw ynddyn nhw wedi cael eu cofnodi ar ffilm i’r oesoedd i ddod. Mae rhai mannau yn anodd eu lleoli ac eraill yn ymddangos yn union yr un fath, mae’r rhan fwyaf, fel y bobl rydyn ni’n eu hadnabod wedi newid ychydig ond yn y bôn rydyn ni’n dal yn gallu gweld pwy ydyn nhw. Pan oedd y ffotograffwyr o’r casgliad cenedlaethol yn tynnu eu ffotograffau, er enghraifft John Thomas yn tynnu llun y trên yn cyrraedd Gorsaf Reilffordd Machynlleth ym 1885, roedd y trên wedi bod yn galw yn yr orsaf ers 1863. Roedd hwn yn dod ar y rheilffordd o’r Drenewydd, a adeiladwyd dan oruchwyliaeth y diwydiannwr David Davies, taid y Chwiorydd Davies. Bu gorsaf ym Machynlleth cyn hynny ar gyfer Rheilffordd Corris agorwyd ym 1859, caewyd yr orsaf ym 1948, ond mae’r adeilad dal i’w weld wrth fynedfa Parc Eco Dyfi. Ym 1864 daeth yr holl gwmnïau bychain, a adeiladodd reilffyrdd ar draws y Canolbarth, dan adain y Cambrian Railways Company. Ym 1923 cymerodd y Great Western Railway feddiant ohono. Ychydig flynyddoedd wedi tynnu’r ffotograff, rydym yn gwybod i flwch gael ei osod yn yr orsaf er mwyn i deithwyr adael eu papurau newydd, a rhannwyd y rhain gyda phreswylwyr Wyrcws Machynlleth. Pum mlynedd ar hugain wedi i’r ffoto gael ei dynnu cafodd David Lloyd Jones ei daro gan drên, yn fuan ar ôl i’w yswiriant bywyd ddod i ben. Cytunodd y Cambrian Railways dalu iawndal i’w wraig gan fod ganddi ddau blentyn bach i’w magu. Dim ond 31 oed oedd ef. Byddai llawer o’r rheiny a oedd yn gweithio yn yr orsaf ac ar y rheilffordd yn ymuno â’r lluoedd arfog yn ystod 1914-18, deng mlynedd ar hugain ers tynnu’r ffotograff. Bu farw glanhawr injan yn y Dwyrain Canol, a swyddog tocynnau ym Mrwydr Gaza ym Mawrth 1917. Yn Rhagfyr 1914 ymgasglodd grŵp ar yr un platfform i groesawu dau deulu o wlad Belg, a oedd dan oresgyniad yr Almaenwyr, ac fe’u gwahoddwyd i fyw ym Machynlleth. Heddiw mae gennym drenau Trafnidiaeth Cymru yn cyrraedd yr un platfform.

Yn ffotograff PB Abery o’r Drenewydd o’r 1890au gwelwn yn glir yr olygfa o dwr y cloc i fyny Stryd Lydan tuag at y Bont Hir a Stryd y Cilgant. Mae’n ddiwrnod marchnad ac mae stondinau wedi’u gosod ar hyd Stryd Lydan ac mae pobl yn cerdded o gwmpas, mae ambell blentyn gyda ffon yn gyrru buwch, mae dau fachgen yn y tu blaen wedi gweld y camera, ac mae buwch arall. Mae pawb yn gwisgo het. Gallwch weld lle mae Specsavers heddiw. Mae’r ochr chwith wedi newid, ond nid yw’n amhosib ei hadnabod, mae’n ymddangos yn gyfarwydd. Lle mae Sinema’r Regent heddiw, gallaf weld arwydd ar gyfer English Opera, felly roedd hi’n amlwg yn lleoliad ar gyfer adloniant cyhoeddus hyd yn oed bryd hynny, a lle mae’r cylchfan, pen draw’r bont, mae un golau nwy. Gallaf weld melin enfawr ar Stryd Fasnachol. Melin gwŷdd llaw Rhif 5 wedi’i gyrru ag ager oedd hi. I fyny’r allt, mae Gerddi Bryn yn edrych yn union yr un peth.
Rhoesom gopïau o ffotograffau gan Geoff Charles a Don Griffiths i Emma Beynon a Grug Muse. Wedyn buon nhw’n gweithio gyda llenorion lleol i archwilio’r hyn daniodd y delweddau iddyn nhw. Bydd y darnau hyn o ysgrifennu’n dod yn rhan o’r arddangosfa, ond cawsant hefyd eu hanfon at y gwneuthurwr ffilmiau animeiddiedig Gemma Green Hope sydd wedi’u defnyddio i greu ffilm newydd, a adroddir gan Casi Wyn. Mae’r llenorion wedi bod ar ymweliad â’r Llyfrgell Genedlaethol lle cawsant eu cyflwyno i’r casgliadau.
Fel rhan o ddatblygiad CELF comisiynwyd y ffotograffydd Mohamed Hassan gennym i dynnu portreadau o bobl yn Y Drenewydd heddiw. Dogfennwyd y broses mewn ffilm fer gan Ellie Orrell. Mae’r gwaith yn cynnig dogfen ddiddorol o fywydau dydd i ddydd pobl yn y dref.
Rydyn ni hefyd wedi comisiynu gwaith ysgrifennu newydd gan Dylan Huw a Jason Jones mewn ymateb i waith Tom Cardew (Machynys Forgets Itself) a Paul R Jones (Defodau Ffin). Dangoswyd y gweithiau hyn yn rhan o’n cyfres pop-up cyn i ni gau.
Gan gadw’r cysyniad “mae popeth yn newid, mae popeth yr un peth” yn y cof, ymgymeron ni â buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn creu oriel a fyddai’n addas ar gyfer derbyn benthyciadau mawr dros yr ugain blynedd nesaf. Roedden ni’n gwybod na fyddai hwn yn rhoi llawer o gyfle ar gyfer newid gweledol mawr yn yr oriel, ac rydyn ni wedi cael tri benthyciad sylweddol yn y pedair blynedd ddiwethaf, ond daeth yn amlwg bod angen i ni edrych ar atgyweirio a gwelliannau mawr gan gynnwys y to, ehangder unigol mwyaf adeilad yr oriel. Mae wedi bod yn ei le ers pum mlynedd ar hugain ac roedd yn dechrau dirywio mewn mannau.
Roedden ni’n gwybod hyn gan fod yr adeilad yn dechrau gollwng y tu mewn. Yn ddelfrydol wrth gwrs, hoffem weld yr adeilad cyfan yn cael ei ddatblygu, gan gynnwys stiwdio addysg newydd, mannau awyr agored, gwelliannau i’r siop, caffi a’r toiledau, ond mae’r pethau hyn yn cymryd amser. Hoffem newid rhannau eraill o’r adeilad ac mae’r gwaith cynllunio ar gyfer rhagor o ddatblygiad mewn cyfnod cynnar ar hyn o bryd. Roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus i sefydlu rhwydwaith o orielau a fyddai’n arddangos gweithiau o’r casgliad cenedlaethol i gymunedau ar draws Cymru a chlustnodwyd cyllideb gyda’r amcan penodol o greu model ar wasgar ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Gyda hyn mewn golwg rydym yn awr yn rhan o CELF. Nod CELF yw rhannu gweithiau o’r casgliad gan artistiaid cyfoes.

Beth mae Cyfoes yn ei olygu i ni?
Mae Oriel Davies yn gweithio’n gyson gydag artistiaid cyfoes. Artistiaid sy’n gweithio heddiw yw’r rhain yn bennaf. Mae Cyfoes o fewn cyd-destun hanes celf yn golygu celf wedi’i chreu yn y 20fed ganrif hwyr hyd heddiw, a chaiff ei nodweddu’n aml gan arloesedd a drwy adlewyrchu materion cymhleth ein byd global sy’n newid yn gyflym. Mae’n cwmpasu ystod eang o arddulliau gan gynnwys Celf Bop, Mynegiadaeth Haniaethol, Minimaliaeth a Chelf Gysyniadol.
Beth mae Modern yn ei olygu i ni?
Yn hanes celf mae Moderniaeth yn rhychwantu’r cyfnod hwyr yn y ddeunawfed ganrif hwyr hyd at yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Mae’r gelf a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod hwn yn nodi ymadawiad arwyddol o’r arddulliau a’r gwerthoedd traddodiadol, yn debyg i’r ffordd wnaeth Celf Gyfoes yn yr Ugeinfed Ganrif hwyr yn ddiweddarach. Mae’n gallu cynnwys celf a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod oddeutu’r 1860au hyd at y 1970au, ac felly mae trawsgroesiad rhwng Celf Fodern a Chelf Gyfoes (1945-1970au). Mae arddulliau Celf Fodern arwyddocaol yn cynnwys Argraffiadaeth, Swrrealaeth, Mynegiadaeth Haniaethol a Chelf Bop! Mae arddulliau, cyfryngau a dylanwad y mudiadau amrywiol hyn yn unigryw.
Sut ydyn ni wedi newid? Ydyn ni wedi newid?
Fel rhan o bartneriaeth CELF, ac fel y cam nesaf i ni, rydyn ni’n gobeithio dod â gweithiau o Gasgliadau’r Chwiorydd Davies yn ôl i’r Drenewydd er mwyn caniatáu i ni ddathlu cyfraniad unigryw’r ddwy ddynes o’r Canolbarth i’r byd celf ac archwilio’r ffordd mae eu gwaddol yn parhau i ddylanwadu ar genedlaethau o artistiaid y dyfodol.
Mae gennym ddiddordeb mewn gweithio gydag artistiaid cyfoes sy’n creu gwaith sy’n cysylltu â chelf hanesyddol, fel y gellid ei weld yn ein partneriaeth â’r National Gallery 2021-2023. Dyma’r adeg dangosom ni waith artistiaid cyfoes a fu’n ymateb i ddarnau hanesyddol Verrocchio, Rembrandt a Chardin.
Adeiladwyd Oriel Davies ym 1967 fel Oriel Goffa Davies yn wreiddiol ac fe’i cynlluniwyd gan Lywydd yr RIBA, Alex Gordon, drwy gymynrodd gan Margaret Davies, un o’r Chwiorydd Davies, Gregynog. Casglodd Margaret a Gwendoline gelf a hynny o ddechrau i ganol yr ugeinfed ganrif. Pan roddwyd casgliadau’r chwiorydd i’r genedl, yn cynnwys gweithiau pwysig gan Turner, Monet, Cézanne, a Renoir, ochr yn ochr â phaentwyr modernaidd Prydeinig nodedig megis Vanessa Bell a Christopher Wood, dyrchafwyd proffil yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn sylweddol i lefel ryngwladol.
Yn wreiddiol Oriel 31 oedd Oriel Davies (enwyd ar ôl yr adeilad yn 31, Stryd Fawr, Y Drenewydd). Fe’i sefydlwyd ym 1982 cyn symud i Oriel Goffa Davies ym 1985 a’i hailenwi’n Oriel Davies Gallery yn 2003. Aeth yr oriel drwy ddau gyfnod o ailddatblygu yn 2002-2004, yn cynnwys y caffi newydd a’r estyll adlewyrchol a gyflwynwyd gan B3Burgess.
Beth sydd wedi newid mewn gwirionedd?
Mae gan Oriel Davies system do hollol newydd, gydag insiwleiddio ychwanegol sy’n ei gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni, ac rydyn ni wedi ailosod rhai o’r unedau gwydr diffygiol. Rydyn ni wedi cynyddu diogelwch ar draws yr holl safle, ac rydyn ni wedi gosod systemau trin aer newydd. I’r rhan fwyaf o bobl bydd yr oriel yn ymddangos yr un peth, ond mae’r gwaith wedi bod yn eang ac rydyn ni’n gobeithio dangos rhagor gyda threigl y flwyddyn.
Bellach, gan fod gennym berthynas wedi’i sefydlu ar gyfer gweithio’n barhaus gyda’r Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol, dyna fydd y prif newid.
Nodiadau Bywgraffiadol
John Thomas (1838-1905)
Ganed John Thomas yng Nghellan, Ceredigion, yn fab i labrwr. Ym 1853 symudodd i Lerpwl i weithio mewn siop ddillad. Dros gyfnod o ddeng mlynedd dirywiodd ei iechyd oherwydd y gwaith a gorfodwyd iddo chwilio am waith yn yr awyr agored. Felly, ar ddechrau'r 1860au, aeth yn asiant teithiol i gwmni a oedd yn gwerthu deunydd ysgrifennu a ffotograffau o bobl enwog. Bryd hynny roedd cyhoeddi a gwerthu ffotograffau bychain o enwogion (ffotograffau carte-de-visite) yn fusnes llewyrchus iawn. Pan sylweddolodd yntau cyn lleied o ffotograffau o enwogion Cymru oedd ganddo i'w gwerthu aeth ati ei hun i newid pethau.
Dysgodd hanfodion sylfaenol ffotograffiaeth, ac ym 1863 dechreuodd dynnu ffotograffau o enwogion trwy wahodd nifer o bregethwyr adnabyddus i eistedd iddo. Bu'r fenter yn llwyddiant ac erbyn 1867 roedd yn ddigon hyderus i sefydlu ei fusnes ffotograffiaeth ei hun, The Cambrian Gallery. Parhaodd â gwaith ffotograffydd am yn agos at ddeugain mlynedd gan deithio’n eang yng ngogledd, canolbarth a de Cymru yn tynnu ffotograffau o dirweddau yn ogystal â phobl.
Wedi iddo ymddeol o’r busnes, prynwyd casgliad o dros dair mil o'i negyddion gorau gan O M Edwards ar gyfer darlunio'r cylchgrawn Cymru. Roedd John Thomas wedi cydweithio gydag OM am flynyddoedd lawer drwy ddarparu lluniau ac ysgrifennu erthyglau ar gyfer Cymru. Talodd OM y deyrnged hon iddo am y cymorth a gafodd ganddo i ddarparu lluniau i'r cylchgrawn, "... hawdd dychmygu fy llawenydd wrth dderbyn cynnyg cymorth Mr John Thomas, yn ei ddull diymhongar ei hun. Gwyddwn nad oes odid neb yn meddu casgliad mor gyflawn o ddarluniau o holl leoedd hanesiol Cymru. Pryd bynnag y bydd mewn ardal, ychwanega at ei ystor o bob lle tlws, enwog, neu hynod ynddi. Y mae ei oriel gyfoethog wedi bod yn agored, â chroesaw imi... Mae'n gysur meddwl fod yn y Cambrian Gallery gasgliad o olygfeydd ymhob ardal bron yng Nghymru, ac o gymeriadau hynod y blynyddoedd diweddaf ymhob un." (Cymru 17 (1899), t.134).
Bu farw John Thomas yn Hydref 1905
Heddiw mae'r negyddion a brynwyd gan O M Edwards yn rhan o gasgliad ffotograffiaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Nodiadau Bywgraffiadol
PB Abery (1876-1948)
Cyn ei farwolaeth ym 1948 dewisodd Percy Benzie Abery 1580 o’i negyddion gwydr i’w rhoi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ganed P B Abery yn Folkestone, yn un o un ar ddeg o blant. Ym 1898 prynodd fusnes ffotograffiaeth bychan yn Llanfair-ym-Muallt a pharhaodd y busnes am hanner canrif. Erbyn 1911 roedd y busnes wedi tyfu’n ddigon mawr iddo allu symud i’r West End Studio. Gwnaed ystafelloedd tywyll ar y llawr isaf, siop ar y llawr gwaelod, gweithdy ar gyfer fframio a gosod lluniau ar y llawr cyntaf a stiwdio ar y llawr uchaf i fanteisio ar y golau dydd.
Yn ystod misoedd yr haf roedd gweld P B Abery ar ei feic yn olygfa gyffredin, gyda chamera a stand drithroed ar ei gefn, yn brysur yn tynnu ffotograffau grwpiau o ymwelwyr yn yfed y dŵr o ffynhonnau Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod. Y bore canlynol byddai grwpiau’n ymgasglu wrth ffenestr ei siop ‘fel gwenyn o gwmpas pot mêl’ yn chwilio am luniau ohonyn nhw’u hunain. Yn ddiweddarach newidiodd y beic am feic modur a seidcar ac ym 1928 cafodd ei gar cyntaf, sef ‘baby Austin’.
Ar wahân i dynnu lluniau grwpiau o ymwelwyr, byddai’n manteisio ar unrhyw gyfle i dynnu ffotograffau o ddigwyddiadau o bwys yn y newyddion, a byddai’n anfon y printiau ar frys mawr at y papurau dyddiol yn Llundain. Wrth gyhoeddi ei farwolaeth fe’i disgrifiwyd gan y Daily Mail fel ‘one-time ace press photographer.’ Pan fyddai’n tynnu ffotograffau mewn priodasau byddai’n paratoi set o brofluniau i’r briodasferch a’r priodfab eu gweld yn eu gwledd briodas. Hefyd fe’i penodwyd yn ffotograffydd swyddogol gan Waith Dŵr Birmingham pan adeiladwyd Argaeau Cwm Elan.
Ar ryw adeg derbyniodd PB Abery nifer o negyddion gwydr gan ffotograffydd lleol arall, sef Robert Newton Heywood, Trefyclo (1877-1935). Mae nifer o’r rhain wedi’u cynnwys yma a gellir eu gwahaniaethu gan ei gapsiynau ysgrifenedig nodedig, yn aml gyda’r ychwanegiad ‘CT.HK’, talfyriad ar gyfer Copyright, Heywood Knighton.
Cyn i’r Kodak Brownie ddod yn eitem bob dydd byddai ymweliad â stiwdio’r ffotograffydd yn digwydd am nifer o resymau - dyweddïo, bedyddio, graddio, dathlu pen-blwydd arbennig ac ati. Wrth adael ardal heddychlon y Canolbarth i fynd i’r ffosydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn aml deuai milwyr i’r stiwdio i gael portread wedi’i dynnu ohonyn nhw eu hunain yn eu ffurfwisg i’w roi i anwyliaid fel rhywbeth bach i gofio. Arafodd y rhan hon o’r busnes ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf wrth i’r Kodak Brownie ddod yn fwy cyffredin. Fodd bynnag, roedd hwn yn gyfle newydd i ffotograffydd parod i fentro ac yn fuan dechreuwyd gweld llewyrch ar y busnes datblygu a phrintio lluniau. Byddai ffilm a gâi ei hanfon i’r siop erbyn deg o’r gloch y bore’n barod erbyn pump o’r gloch y prynhawn hwnnw.
Nodiadau Bywgraffiadol
Geoff Charles (1909-2002)
Mae cyfraniad Geoff Charles i ffotograffiaeth Cymru yn unigryw. Bu'n gweithio fel ffoto-newyddiadurwr o'r 1930au hyd at y 1970au a daeth at y gwaith hwnnw gyda dawn naturiol a chydymdeimlad dwfn â'i destun. Cofnododd yn arbennig ddigwyddiadau a phersonoliaethau’r Gymru Gymraeg. Erbyn heddiw mae ei archif yn un o drysorau'r Llyfrgell Genedlaethol.
Pwy oedd Geoff Charles?
Ganed Geoff Charles ym mhentref Brymbo ym 1909. Astudiodd ar gyfer Diploma mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Llundain lle graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1928. Bu'n gweithio i'r Western Mail am gyfnod byr yn paratoi adroddiadau ar rasys motobeics, rasys milgwn a chwestau. Wedyn aeth i adrodd ar achosion llys a chyfarfodydd cyngor i'r Mountain Ash and Aberdare Express cyn symud i Guildford i weithio ar y Surrey Advertiser. Yn dilyn pwl o salwch dychwelodd adref a mynd i weithio ar y Wrexham Star a oedd wedi'i sefydlu â chyllid nesaf peth i ddim yn Chwefror 1934. Gwerthwyd y papur ar y stryd am geiniog, sef hanner pris y Wrexham Leader ei brif gystadleuydd. Yn fuan wedi ymuno â staff y Wrexham Star cafodd Geoff Charles ei hun yn adrodd ar hanes trychineb glofa Gresffordd. Cafodd fynediad i'r ystafell lampau a chael ar ddeall bod nifer y dynion o dan ddaear yn llawer uwch na'r ffigur swyddogol o 100. Gyda'r wybodaeth honno aeth ati ar frys i gyhoeddi argraffiad arbennig o'r papur.
Mynd i weithio ar Y Cymro
Yn eironig golygodd gwelliant yn yr economi dranc y Wrexham Star wrth i'w werthwyr ar y stryd ddod o hyd i swyddi sefydlog. Prynodd Geoff ei gamera cyntaf wrth weithio i'r Wrexham Star, sef VPK Thornton Pickard a ddefnyddiai platiau gwydr 6 x 9 cm (2.5" x 3.5"). Ym mis Mawrth 1936 prynwyd y papur gan y Wrexham Advertiser ac fe'i hymgorfforwyd ynddo. Ar y Wrexham Advertiser y cyfarfu Geoff Charles, a oedd erbyn hyn yn ffotograffydd cymwys, gyda'r rheolwr gyfarwyddwr, Rowland Thomas am y tro cyntaf, a chreu argraff ddigonol arno i gael cynnig y swydd o reolwr adran ffotograffig cwmni Woodalls Newspapers iddo. Yn fuan ar ôl hynny symudodd i'r Drenewydd fel rheolwr y Montgomeryshire Express, ac yno cyfarfu â newyddiadurwr ifanc addawol o'r enw John Roberts Williams a fyddai'n cydweithio ag ef wrth ddarparu ffotograffau i gyd-fynd â straeon Y Cymro. Dechreuodd weithio'n achlysurol ar Y Cymro ym 1937 pan gafodd gyfweliad gyda'r Parch. Lewis Valentine cyn iddo gael ei garcharu am ei ran yn llosgi Ysgol Fomio Penyberth. Daeth y gwaith gyda'r Cymro i ben bron yn gyfan gwbl yn ystod y rhyfel pan fu'n aelod o is-bwyllgor Arddangos Pwyllgor Gweithredol Amaeth Rhyfel Sir Drefaldwyn a oedd yn gyfrifol am wella arferion ffermio. Cafodd lawer o'i gynnyrch o’r cyfnod hwn ei ddinistrio mewn tân.
Ailgydiodd o ddifri yn ei waith gyda'r Cymro yn dilyn y rhyfel pan benodwyd John Roberts Williams yn olygydd. Yn fuan roedd eu gwaith ben ac ysgwydd uwchben unrhyw ffoto-newyddiaduraeth a oedd wedi bod yng Nghymru o'r blaen. Mae Geoff Charles yn barod hefyd i nodi bod y Picture Post yn ddylanwad yn ystod y cyfnod hwn. Y ddelwedd o'r bardd gwlad Carneddog a'i wraig yn cael eu gorfodi i adael eu fferm fynyddig ar farwolaeth eu mab yw ei waith mwyaf adnabyddus. Ni lwyddodd yr un ffotograff arall i gydio yn nychymyg y Cymry fel hyn, a chafodd le ochr yn ochr â ‘Salem’ Curnow Vosper mewn nifer o gartrefi. Dros y cyfnod hwn dogfennodd lawer mwy na digwyddiadau a phobl; darn wrth ddarn, ffotograff wrth ffotograff datgelir ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu: gweision fferm yn y llofftydd stabl, y postmon ar gefn ei geffyl, yr hen chwarelwr a'i gar gwyllt. Cofnododd hefyd ddyfodiad trydan i bentrefi diarffordd, ysbryd milwriaethus newydd ym mrwydr yr iaith ac effaith mecaneiddio ar fyd amaeth.
Nodiadau Bywgraffiadol
Don “The Flash” Griffiths
Ffotograffydd proffesiynol yn Y Drenewydd oedd Don Griffiths a gyflogwyd gan y Montgomeryshire Express a chyhoeddiadau cysylltiedig. Roedd yn tynnu lluniau o’r Rhyl i Aberhonddu rhwng y 1960au a’r 1990au. Mae llawer o’r eitemau o ddiddordeb mawr yn lleol a thu hwnt hefyd gan eu bod yn cynrychioli cipolwg o fywyd yng nghymdogaethau Maldwyn mewn cyfnod o newid cymdeithasol a thechnolegol. Mae’r gwaith drwyddo’n cynnig trosolwg o fywyd yn Y Drenewydd, Y Trallwng, Llanidloes a’r ardaloedd gwledig o’u hamgylch yng nghanol y 1960au. Mae’r casgliad hwn o tua 3500 o negyddion yn cynrychioli cynnyrch 1964.
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau