Cymraeg

Talent Newydd Sbon

JOSHUA DONKOR + JASMINE VIOLET

Arddangosfeydd | 12 Tachwedd 2021 - 24 Rhagfyr 2021

Cymerodd Joshua Donkor ran yn Rhaglen Fwrsariaeth a Mentora Interlude, a drefnwyd gan VAGW*. Graddiodd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae wedi cael sylw ar Artist y Flwyddyn Sky, a Staged. Mae wedi ennill gwobrau gan AOI.

Mae gwaith Joshua yn archwilio syniadau o hil, hunaniaeth, achau a phrofiadtrawsddiwylliannol. Ei nod yw “dal straeon a phrofiadau unigolyn yn agored ac yn onest.” Mae ei waith yn archwilio brwydrau a manteision Hynafiaeth Affrica, gan dorri i ffwrdd o ystrydebau gorsymleiddiedig a rhagfarnllyd sy'n bodoli o amgylch “hunaniaeth ddu”.

Yn 2020 dechreuon ni weithio gyda Jasmine Violet fel un o'n Artistiaid Cyswllt. Mae Jasmine wedi graddio yn ddiweddar yn Ysgol Gelf Caerfyrddin.

Mae Jasmine yn gweithio gyda chyfryngau cymysg yn archwilio ei hunaniaethfel menyw ddu yng nghyd-destunau Prydain a Chymru. Mae hi'n myfyrio ariechyd meddwl, y realiti isymwybodol ac ystumiedig. “Rwy’n aml yn gweithiogyda ffotograffiaeth Polaroid, cyanoteipiau, gwneud printiau, darlunio a phaentio.” Mae ei gwaith yn cael ei gadw yng Nghasgliad Celf Gyfoes LlyfrgellGenedlaethol Cymru ac mae hi wedi arddangos yng Nghanolfan y CelfyddydauAberystwyth, Fen Ditton Gallery, MOMA Machynlleth a Llantarnam Grange.

manual override of the alt attribute