I Remember Myself. At Gorff.
Jones the Dance
Am ddim i fynychu ond mae'n rhaid archebu, cewch eich gwahodd i dalu beth bynnag a feddyliwch sy’n deg.
Drysau 6.30pm
Perfformiad 7pm
Wyddech chi bod gan eich corff ei gof ei hun?
Mae cloch yn canu ac rydych yn ôl yn eich diwrnod cyntaf yn yr ysgol. Mae cân yn chwarae ac mae cariad yn cyniwair unwaith eto. Mae awel gynnes yn cyffwrdd eich croen, ac rydych yn cael eich cludo yn ôl i’r diwrnod o haf arbennig hwnnw.
Cysur, ofn, llawenydd a chyffro - y cyfan wedi eu cadw yn ein cyhyrau a’n hesgyrn, yn barod i ddod i’r wyneb trwy ein synhwyrau.
Yn teithio'r mis Ebrill a Mai hwn, bydd I Remember Myself. At Gorff, gwaith dawns rhyngweithiol, trochol, cyfoes yn datgelu rhyfeddod ein cyrff fel archif i’n profiadau.
Gan gael ein hysbrydoli gan storïau’r bobl y byddwn yn eu cyfarfod ar y daith a’u plethu gyda rhai’r dawnswyr, Eddie Ladd, Anna Seymour, Gwyn Emberton a Dan Ozeri, bydd pob oriel yn cael ei thrawsnewid yn gapsiwl amser o atgofion symud yn ei pherfformiad unigryw ei hun.
Fe’ch gwahoddir yn chwareus i ddylanwadu ar yr hyn a ddatgelir neu gallwch yn syml eistedd yn ôl a chael eich cludo i fyd personol iawn o deithiau a rennir yn llawn gobaith, poen, cariad a cholled. Efallai y byddwch yn datgelu rhai o’ch perlau anghofiedig eich hun yn y broses.
Mae croeso i bawb.
Gyda rhywfaint o Gymraeg a Saesneg yn cael eu siarad ac Iaith Arwyddion Prydain.

TÎM CREADIGOL
Coreograffi
Gwyn Emberton
Dawnswyr
Anna Seymour
Dan Ozeri
Eddie Ladd
Gwyn Emberton
Cerddoriaeth
Sion Trefor
Ioana Selaru
Dylunio
Lois Prys
Coreograffydd cynorthwyol
Eli Williams
Rheolwr Technegol
Jim Elliott
Cynhyrchydd
Kama Roberts

Diolch i…
Diolch yn arbennig i’n partneriaid Oriel Davies yn y Drenewydd, Glyn Vivian yn Abertawe a Mostyn yn Llandudno am gynnal ein preswyliadau a’n perfformiadau ac am ein cefnogi i gysylltu â’u cymunedau lleol.
Crëwyd gyda chefnogaeth cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, The Ashley Family Foundation a Sefydliad Cymunedol Cymru, a Chynllun Grant Diwylliannol Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Adferiad.

Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.