Cymraeg

Caredig i'r Meddwl - Clwb Celf - Gweithdy Hanner Tymor

Ar gyfer plant 7 - 11 oed. AM DDIM

30 Hydref 2024 - 30 Hydref 2024

Dydd Mercher 30ain Hydref 10.30yb - 1yp tu fewn a thu allan yn Neuadd Gymuned Treowen

manual override of the alt attribute

Mae Kind to the Mind yn cefnogi plant i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar, hyder ac ymdeimlad o le yn y byd trwy chwarae creadigol.

Mae hwn yn gyfle gwych i blant dreulio amser yn dod i adnabod ei gilydd a gweithio gydag artistiaid i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar trwy greadigrwydd.

TRAWSNEWID gyda Beth Clewes

Ffyngau, cen a mwsogl; dod i adnabod rhinweddau hud y rhywogaethau hyn a darganfod eu posibiliadau wrth wneud marciau.

Croesewir rhoddion i gadw'r gweithdy hwn yn rhad ac am ddim i bawb.

Ennyn

Mae Oriel Davies a’r sefydliad celfyddydol Ennyn yn cydweithio i ddatblygu rhaglen greadigol gynhwysol i blant sy’n annog chwarae, archwilio a hunan fynegiant.

Mae Ennyn yn sefydliad celfyddydol wedi'i leoli yn y Canolbarth sy'n darparu rhaglen gelfyddydau gymunedol ddwyieithog.

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad

Gwerthu Allan

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau