Llif: gwaith ar y gweill
Pe bai’r afon Hafren yn berson, sut fyddech chi'n dweud ei stori?
Mae’r artist gweledol Gemma Green-Hope a’r awdur a chynhyrchydd sain Sofie Isenberg yn bwriadu ateb y cwestiwn hwn wrth iddyn nhw gasglu deunydd i wneud arddangosfa gelf a ffilm wedi’i hanimeiddio am yr afon. Bydd y tîm yn siarad â geomorffolegwyr rhewlifol ac afonol er mwyn darganfod sut y daeth yr afon i fodolaeth gyntaf, a yw ei chwrs wedi newid dros amser a sut, a sut y mae wedi dylanwadu, a chael ei dylanwadu gan, y dirwedd o’i chwmpas. Byddant yn casglu gwybodaeth am y fytholeg a’r llên gwerin sy’n amgylchynu’r Hafren, ac am ei hanes o ymyrraeth ddynol (a'i ymyrraeth ym mywydau dynol). Byddant hefyd yn dogfennu'r ffordd y mae bywyd a marwolaeth yn datblygu o amgylch yr afon, gan gynnwys casglu hanesion llafar gan bobl sydd wedi byw, gweithio a chwarae ar hyd yr Hafren.
Dewch i ddarganfod beth mae eu hymchwil wedi'i gynhyrchu hyd yn hyn ac ychwanegu eich straeon eich hun at fywgraffiad yr Hafren.