Cymraeg

Make now, think later!

Wobrau Coffa Alexandra Reinhardt (ARMA) 2025-26

13 Rhagfyr 2025 - 21 Chwefror 2026

Dewiswyd lleoliadau celf ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban i gymryd rhan yng Ngwobrau Coffa Alexandra Reinhardt 2024–25, gan weithio gyda phobl ifanc a’u rhwydweithiau cymorth ar bedwar comisiwn cyffrous i artistiaid gyd-greu gweithiau sy’n sy’n ymgorffori sgiliau, dychymyg a safbwyntiau unigryw grŵp o bobl ifanc ym mhob ardal.

manual override of the alt attribute

Dewiswyd lleoliadau celf ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban i gymryd rhan yng Ngwobrau Coffa Alexandra Reinhardt 2024–25, gan weithio gyda phobl ifanc a’u rhwydweithiau cymorth ar bedwar comisiwn cyffrous i artistiaid gyd-greu gweithiau sy’n sy’n ymgorffori sgiliau, dychymyg a safbwyntiau unigryw grŵp o bobl ifanc ym mhob ardal.

Mae ‘Gwneud nawr, meddwl wedyn!’ yn ein hannog i symud y tu hwnt i heriau’r presennol i fod yn gyfranogwyr gweithredol sy’n ffurfio realiti gwahanol. Roedd y gweithdai’n curadu sgyrsiau ynghylch llesiant emosiynol, wrth ddathlu creadigrwydd fel arf pwerus ar gyfer meithrin gwydnwch a dyhead.

Yn Oriel Davies, bu Nicky Arscott yn cydweithio gyda phlant a phobl ifanc o deuloedd oedd newydd gyrraedd o Syria ac Afghanistan, gan greu gofodau oriel cynhwysol oedd yn chwalu rhwystrau ac yn meithrin integreiddio cymunedol.

Yn Fabrica, bu Dan Thompson yn cydweithio gyda’r ‘Crew Club’ yn nwyrain Brighton i greu The Great Whitehawk, gan archwilio creu lleoedd, hunaniaeth, cartograffeg a genre.

Yn Swydd Lincoln, yng Nghanolfan 2021-Visual Arts, cyflwynodd Tony Wade weithdai gyda phobl ifanc i greu cyfres o weithiau’n ymateb i brociadau ynghylch maeth, ffurfiau corfforol, chwarae a grymuso.

Yn Dundee Contemporary Arts, bu Soundplay Projects yn gweithio gyda phlant oed cynradd ag anableddau dysgu dwys a niferus ynghyd â’u gofalwyr dosbarth yn Ysgol Kingspark mewn gweithdai sain gyda ffocws ar gynhwysiant, cyfathrebu, ymreolaeth unigol a phrofiadau synhwyraidd.

Mae ‘Gwneud nawr, meddwl wedyn!’ yn arddangosfa deithiol a gynhyrchir yn rhan o Wobrau Coffa Alexandra Reinhardt (ARMA) 2025-26. Mae ARMA yn rhaglen a ddatblygwyd gan Engage, y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysg Orielau, i alluogi i orielau, amgueddfeydd celf a lleoliadau celfyddydau gweledol gefnogi rhaglen bwrpasol o ymgysylltu â’r celfyddydau gweledol a gweithgaredd llesiant gyda phlant neu bobl ifanc. Dechreuwyd a chyllidir y Gwobrau gan Ymddiriedolaeth Elusennol Max Reinhardt.

Credyd llun Sarah McNally

Gwybodaeth am y Lleoliad

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau