Making Merrie
Lewis Prosser
Prosiect perfformio dwyieithog sy'n archwilio theatr werin y ffin rhwng Cymru a Lloegr, wedi'i ysbrydoli gan ddramâu mummers a thraddodiadau cudd. Yn cynnwys gwisgoedd gwiail mawr wedi’u crefftio â thechnegau helyg traddodiadol, mae’r prosiect yn amlygu crefftwaith ac iaith gynaliadwy fel llwybrau i gysylltu’n ddyfnach â’r tir.
Tu fewn a thu allan i Hafan Yr Afon - o tua 3pm
Mae Making Merrie yn brosiect newydd gan yr artist a gwneuthurwr basgedi Lewis Prosser, sy’n archwilio'r diwylliant materol o theatr gwerin ar hyd y ffin o Gymru/Lloegr. Wedi’i ysbrydoli gan ddramâu mudchwarae (‘mummers’) a thraddodiadau o wisgo masgiau, mae’r prosiect yn dwyn ynghyd crefftwaith, perfformiad, sain ac iaith i fyfyrio ar dreftadaeth a chyfnewidiadau diwylliannol.
Mae’r gwaith yn cyflwyno casgliad o wisgoedd gwiail wedi’i crefftio â llaw, gan ddefnyddio technegau gwaith helyg traddodiadol wedi’i deillio gan ddiwylliannau rhanbarthol a’i chymhwyso i’r corff. Amcan y prosiect yw amlygu’r defnydd o blanhigion brodorol a chrefftwaith cynaliadwy i adeiladu hydwythdedd yn wyneb heriau cyfoes. Mae awydd hefyd i ailgysylltu artistiaid efo deunyddiau lleol ac i ddathlu ffyrdd syml o weithio hefo’r tir.
Mae’r sgriptiau ysgrifenedig yn cyflwyno cymysgedd ffôl o Gymraeg a Saesneg, gan gynnig dehongliad modern o’r ddrama mudchwarae, wedi’i thraddodi trwy symudiad byrfyfyr a gorymdaith carnifal. Yn bwysig, bydd y perfformiadau heb ei ymarfer ac wedi ei leoli o fewn y gymuned gan gofleidio chwarae digymell, a chaniatáu momentau annisgwyl o lawenydd a hiwmor.
Bydd y perfformiad cyhoeddus cyntaf, mewn cydweithrediad a’r Oriel Davies, yn cael ei ddal yn Hafan yr Afon ar 21ain o Ragfyr. Wedi’i leoli yn gyfagos i darddiad yr Afon Hafren, lle mae’r dyfroedd yn uno a’r Sianel Fryste i faethu'r gwelyau helyg yng Ngwald yr Haf, mae Making Merrie yn pwysleisio’r rhyng-gysylltrwydd rhwng tir, crefft a threftadaeth, gan weld ffiniau fel mannau ar gyfer cyfnewidfa a mynegiant yn lle rhaniad. Bydd y prosiect yn parhau ar hyd y daith yma gyda pherfformiadau hwyrach yng Nghaerdydd ac Abertawe ar y 11eg a 12fed o Ionawr. Mae’r daith naturiol yma yn adlewyrchu’r ffiniau diwylliannol ac ieithyddol rhwng Cymru a Lloegr – thema ganolog i naratif y prosiect yma.
Mae Lewis Prosser, gwneuthurwr basgedi afresymol yn wreiddiol o Fryste, wedi byw yng Nglasgow a bellach ym Mhenarth, yn tynnu ar ei daith bersonol ar hyd y Deyrnas Unedig yn y gwaith yma. Trwy grefft a pherfformiad, y mae’n ceisio i ddeall a chysylltu hefo’r dirwedd o’i gwmpas gan gysylltu ei brofiadau i naratif ehangach o hunaniaeth ddiwylliannol ac ymberthyn.
Trwy Making Merrie, mae Prosser yn bwriadu i ysbrydoli traddodiadau newydd sydd yn cyseinio efo cynulleidfaoedd cyfoes, gan blethu crefft, perfformio ac adrodd stori i gysylltu’r gorffennol a’r presennol wrth faethu dyfodol hydwyth.
Bu Making Merrie wedi’i wneud yn bosib drwy gymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chefnogaeth gan Oriel Davies, Chapter Arts, Oriel Mission, Galeri Caernarfon a’r holl unigolion a bu’n rhannu eu sgiliau ac amser i wneud y prosiect yma’r hyn y mae. Yn dilyn ymlaen y perfformiadau bydd y gwaith yn cael ei harddangos yng Ngaleri Caernarfon o fis Chwefror i fis Ebrill 2025.
Mummers Plays:
Mae dramâu Mudchwarae (‘mummers’) yn berfformiadau gwerin draddodiadol efo gwreiddiau o dros 500 mlwydd oed ac yn aml wedi’i chysylltu i ddathliadau Nadolig a Blwyddyn Newydd.
Rhan annatod o fudchwarae yw cadw’r perfformiwr yn anhysbys am lwc dda. Mae’r mud-chwaraewyr yn gwisgo masgiau neu carpiau a hetiau tal er mwyn cuddio ei hunaniaeth wrth iddynt greu drygioni a pherfformio am bres.
Yn nodweddiadol, mae dramâu mudchwarae yn berfformiadau anffurfiol, heb ei ymarfer gan grwpiau amatur. Mae’r dramâu tymhorol – wedi ei berfformio mewn cartrefi, tafarnau ac ar y strydoedd – yn adrodd straeon syml o frwydrau, marwolaeth ac adfywiad gwyrthiol. Yn wahanol i ddramâu Dirgelwch cynharach a bu’n darlunio golygfeydd Beiblaidd, mae dramâu Mudchwarae yn seciwlar ac yn debyg i garnifal efo chanolbwynt ar adloniant a hwyl gymunedol.
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau