Cymraeg

Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru

27 Hydref 2024 - 27 Hydref 2024
manual override of the alt attribute

Mae'r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes yn Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol yn perthyn i bawb yng Nghymru. Bydd y model Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol yn ehangu mynediad drwy rwydwaith o orielau ym mhob cwr o Gymru. ⁠Diolch i raglen fenthyg gynhwysfawr, bydd cyfle i bawb yng Nghymru i ddarganfod y casgliad yn lleol, yn ogystal â sicrhau mynediad digidol gwell i'r casgliad cenedlaethol i bobl ar draws Cymru, y DU a thu hwnt.

Mae Oriel Davies yn un o naw aelod yn y rhwydwaith o orielau ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Hefyd yn y rhwydwaith yw’r orielau canlynol:

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; MOSTYN, Llandudno; Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd; Oriel Myrddin, Caerfyrddin; Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli; Canolfan Grefftau Rhuthun; STORIEL, Bangor.

Dewch o hyd i'r casgliad ar lein yma.

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad

Gwerthu Allan

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau