Natur, Llesiant ac Ysgrifennu Creadigol gyda Jill Teague
Natur fel Meddyginiaeth: Adnewyddu, Adfywio ac Alinio
Cwrs pedwair wythnos ar-lein gyda Jill Teague
Dyddiadau – dydd Iau 04+11+18+25 Mawrth
Amser – 10.30am - 12
Ymunwch â Jill Teague, Bardd Cymraeg ac Ymarferydd Therapi Barddoniaeth, i archwilio natur a llesiant trwy gyfrwng ysgrifennu creadigol.
Mae ein cysylltiad â natur, boed yn goedwig, glan y môr, parc lleol neu iard gefn ein hun, yn rhoi ffordd i ni archwilio ein natur fewnol a'n potensial creadigol ein hunain. Mae amser yn yr amgylchedd naturiol yn gallu rhoi'r gofod sydd ei angen arnom i adnewyddu, adfywio ac adlinio.
Yn ystod y cwrs, byddwn yn:
Archwilio arferion seiliedig ar natur fel ffordd o ymgysylltu â'r amgylchedd naturiol
Darllen amrywiaeth o farddoniaeth ac arbrofi gyda ffurfiau barddonol
Defnyddio delweddau gweledol – ffotograffau, paentiadau ac ati, fel mannau cychwyn ar gyfer ysgrifennu
Nid oes angen unrhyw brofiad ysgrifennu blaenorol.
“Dwell mindfully on your steps and soon you will find your balance” - Thich Nhat Hanh
Y tiwtor:
Mae'r bardd Cymraeg, yr hwylusydd ysgrifennu a'r Ymarferydd Therapi Barddoniaeth Jill Teague yn byw yn Eryri, Gogledd Cymru. Mae ysgrifennu a threulio amser yn yr amgylchedd naturiol yn ddwy ffynhonnell o bleser ac ysbrydoliaeth bersonol aruthrol iddi. Mae byw a gweithio mewn man o harddwch naturiol eithriadol wedi chwarae rhan enfawr yn ei iachâd a'i llesiant ei hun, ac mae wedi helpu i gynnal ei phroses greadigol.
Mae Jill yn Gyfarwyddwr Gweithredol iaPOETRY (The International Academy for Poetry Therapy), ac yn Fentor i'r sefydliad, ac yn darparu hyfforddiant i'r rheiny sy'n dymuno dod yn Ymarferwyr Therapi Barddoniaeth.
Mae gwobrau ac ysgoloriaethau yn cynnwys Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, NAPT (National Association for Poetry Therapy), a BridgeXngs Poetry Center, Efrog Newydd, am waith arloesol ym maes therapi barddoniaeth.
Mae'r gweithdy hwn yn addas i ddechreuwyr, ac mae'n rhad ac am ddim i'w fynychu, ond rydym yn awgrymu eich bod yn rhoi rhodd wirfoddol i gefnogi gwaith parhaus Oriel Davies mewn cyflwyno gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau. Ein nod yw darparu cyfleoedd i bawb mewn cymdeithas sicrhau nad oes neb yn colli allan ar iechyd, llesiant a manteision addysgol creadigrwydd.
Gwerthu Allan
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(
Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau