Mae'r ffilm fer hon yn cyflwyno Sownd, y prosiect sy'n cynrychioli Cymru yn yr Arddangosfa Gelf Ryngwladol 61af – La Biennale di Venezia 2026, un o ddigwyddiadau celf gyfoes mwyaf arwyddocaol y byd.
Mae Sownd yn osodiad trochi sy'n archwilio cysylltiadau rhwng tirwedd, iaith a deunydd. Mae'r artistiaid yn dod ag elfennau naturiol o ogledd Cymru a morlyn Fenis ynghyd, gan eu cyfuno â sain, cerflunwaith a testun i greu amgylchedd unigol, rhyng-gysylltiedig sydd wedi'i lunio gan y lleoliad hanesyddol. Ochr yn ochr ag arddangosfa Fenis, mae digwyddiadau byw yng Nghymru yn gwahodd cynulleidfaoedd i brofi'r tiroedd y tu ôl i'r gwaith yn uniongyrchol.

Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
