Cymraeg

Stiwdio Agored | Open Studio

Artist Nicky Arscott occupies Gallery 2 16th - 20 May

16 Mai 2023 - 20 Mai 2023

Meet Nicky and find out about her work Friday 19th and Saturday 20th May 10am - 4pm

manual override of the alt attribute

Ffenestr i broses greadigol yr artist gweledol Nicky Arscott wrth iddi ddefnyddio gofod yr oriel i fyfyrio ar ei hymarfer ac i ddatblygu paentiadau, comics barddoniaeth a ffilmiau newydd ac sydd ar y gweill.

Stiwdio/Stiwdio ar agor i'r cyhoedd Dydd Gwener 19eg a Dydd Sadwrn 20fed Mai 10yb - 4yp


“Yn fy ngwaith fy hun dw i’n ceisio creu darnau sydd fel cerddi gweledol. Rwy’n hoffi arbrofi gyda phethau fel trosiad ac ailadrodd, a gweld sut mae geiriau’n dylanwadu ar sut rydym yn dehongli delweddau, ac i’r gwrthwyneb. Mae’r paentiadau rwy’n gweithio arnynt ar hyn o bryd ar gynfasau mawr iawn ac yn dod ag amrywiaeth o bynciau i mewn fel dawnsfeydd te neuadd gymunedol, ysbrydion blin, y system atgenhedlu, caethiwed, baledi canoloesol a merlod brodorol Ynysoedd Prydain. Rwyf am adeiladu cyfres o baentiadau sy’n teimlo fel casgliad o farddoniaeth pan edrychwch arnynt i gyd gyda’ch gilydd.”

Artist gweledol yw Nicky sy’n byw yn Llanbrynmair. Po hiraf y mae hi'n byw yno, y mwyaf rhyfedd o blanhigion ac anifeiliaid sy'n ymddangos yn ei phaentiadau. Mae gan Nicky MA mewn ysgrifennu creadigol o Brifysgol Texas yn Austin. Mae hi wedi cydweithio â beirdd o bedwar ban byd gan gynnwys Mecsico, India ac UDA i greu naratifau graffig sy’n archwilio ystod amrywiol o brofiadau a materion cyfoes. Mae rhai o’r rhain wedi’u cyhoeddi mewn cyfnodolion, eraill wedi’u hargraffu fel comics indie ac mae un bellach yn cael ei ddefnyddio fel adnodd addysgol i ysgolion drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Nicky yw cyfarwyddwr sefydliad Celfyddydau Canolbarth Cymru Ennyn CIC

Gwybodaeth am y Lleoliad

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau



Digwyddiadau Cysylltiedig