Lates / Hwyrnos
Teddy Hunter & The ODG Writers
Noson o gerddoriaeth, barddoniaeth a chelf sain.
Ymunwch â ni ar gyfer *Forest Requiem* – gosodiad sain 8 sianel a pherfformiad byw gan Teddy Hunter sy’n dathlu bywyd a chylchoedd bywyd coedwigoedd.
Gwrandewch ar gerddi newydd gan yr ODG Writers, wedi’u hysbrydoli gan eu hymweliad diweddar â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron.
AM DDIM, ond cofiwch archebu lle. Croeso i roddion.
Drysau ar agor am 6pm.
Café, bar a siop ar agor.
Mae Teddy Hunter yn cyflwyno Forest Requiem – gosodiad sain 8 sianel a pherfformiad byw sy’n dathlu bywyd a chylchoedd bywyd coedwigoedd. Mae’r *requiem* yn defnyddio mapiau a sgoriau graffig – a gasglwyd yn ystod cyfnod o ymchwil yn Coed Felenrhyd (Woodland Trust), BIFoR (Birmingham Institute of Forest Research), y Gigante Project a Reforesters Farm (delweddau mapiau Google) – er mwyn caniatáu i ofod a thirwedd coedwig ddylanwadu ar y cyfansoddiad. Yn y modd hwn, mae map a welir o’r uchod yn troi’n fap a glywir. Mae’n ffordd o gysylltu pob coedwig ar y ddaear mewn un darn cerddorol cyflawn. Coed a choedwigoedd fel un rym bywyd: byw, egino, tyfu, storio carbon, cyfnewid data, marwolaeth, dadfeilio, a darparu maeth i goed eraill.

Ysgrifenwyr ODG
Dros y chwe mis diwethaf, mae ysgrifenwyr Oriel Davies wedi bod yn meddwl am gorsydd, wrth i’r grŵp baratoi ar gyfer eu hymweliad â Chors Caron. Yn ystod dyddiau hir a phoeth mis Gorffennaf, ysgrifennasant o’u cof am fynd yn sownd mewn mwd ac am gawodydd trwm o law. Darllenasant y darnau ysbrydoledig a ysgrifennwyd ar gyfer yr arddangosfa ‘Cymru yn Fenis’. Mwynasant yr oerni lleddfol o roi eu traed mewn bwcedi o ddŵr a disgrifio’r teimlad hwnnw mewn geiriau, gan baratoi i ysgrifennu am archwilio tirwedd eang, wastad a dirlawn Cors Caron.
Bydd yr ysgrifenwyr yn perfformio cerddi a ysbrydolwyd gan eu hymweliad: haen ar haen o fewnwelediadau gwreiddiol a llawn dychymyg. Mwynhewch ddisgrifiadau byw o sefyll yng nghanol 800 hectar o dir gwlyb, archwiliadau dramatig o’i ddyfroedd tywyll sy’n llyncu popeth, a cherddi chwareus sy’n canmol y dirwedd Gymreig unigryw hon.
Ysgrifenwyr Oriel Davies yw:
Andy Fogarty
Georgina Righton
Jennie Dean
Bob Webster
Amanda Tress
Victoria Osburn-Jones
Desiree Andrews
Julie Pearce
Jack Griffin Lewis
Nic Page
Janie Mcleod



Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.
