The Gentle Good
Croeso Cynnes
The Gentle Good yw moniker y cerddor a chyfansoddwr caneuon o Gaerdydd,Gareth Bonello. Yn adnabyddus am ei felodiau hudolus,ei arddull gitar cywrain a'i drefniannau acwstig hardd,mae Gareth yn un o'r cyfansoddwyr caneuon blaenllaw yng Nghymru heddiw. Drysau 6.30 y.n.
Mae The Gentle Good wedi rhyddhau sawl record uchel ei chlod,yn arbennig Ruins/Adfeilion,a enillodd y wobr Cerddoriaeth Gymraeg yn 2017 ac Y Bardd Anfarwol a enillodd wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2014.
Yn unawdydd cyfareddol,mae Gareth wedi perfformio ar draws y byd,o Wyl Bywyd Gwerin Smithsonian yn Washington DC i Neuadd Gyngerdd Forbidden City yn Beijing. Yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi dod yn gydweithredwr cerddorol uchel ei barch,ar ol gweithio'n helaeth gydag artistiaid o Tsieina ac India.
Mae'n un o sylfaenwyr y Gydweithfa Càsaidd - Cymru gydag artistiaid o'r cymunedau Càsaidd sy'n frodorol i Ogledd Ddwyrain India. Archwiliodd eu halbwm cyntaf Saithain Ki Sur (The Weaving of Voices) effaith ddiwylliannol ac etifeddiaeth drefedigaethol cenhadaeth Gymreig yng Ngogledd-Ddwyrain India a derbyniodd ganmoliaeth eang gan y beirniad pan gafodd ei rhyddhau yn 2021.
Mae datganiad diweddaraf The Gentle Good yn archwiliad wedi'i dynnu'n ôl o ganeuon gwerin traddodiadol Cymreig sy'n cael eu perfformio ar y gitâr acwstig,y sielo a'r llais. Yn dwyn y teitl Galargan (Cymraeg am 'Lament') ffurfiwyd yr albwm yn ystod dyddiau tywyll y pandemig, gan ganiatau i ddoniau Gareth fel canwr unigol a gitarydd ddod i ganol y llwyfan. Wedi'i ryddhau yn mis Medi 2023,mae Galargen wedi derbyn adolygiadau gwych,gan gynnwys 5 seren prin gan The Guardian lle cafodd ei restru ymhlith 5 albwm gerin gorau 2023.
For loads more information please visit www.thegentlegood.com
Gwerthu Allan
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(
Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau