Cymraeg

Gweithdy Barddoniaeth Anymwybodol: Iwtopia (galw heibio, i bob oed)

Sadia Pineda Hameed

Gweithdai a Chyrsiau | 24 Ebrill 2022 - 24 Ebrill 2022

Gweithdy Barddoniaeth Anymwybodol: Iwtopia

Crëwch gerdd weledol a thestun ddeuol hardd am natur, diwydiant ac iwtopia yn y gweithdy barddoniaeth anymwybodol hwn dan arweiniad yr awdur a’r artist Sadia Pineda Hameed.

1-4pm

galw heibio, ar gyfer pob oed

manual override of the alt attribute

Crëwch gerdd weledol a thestun ddeuol hardd am natur, diwydiant ac iwtopia yn y gweithdy barddoniaeth anymwybodol hwn dan arweiniad yr awdur a’r artist Sadia Pineda Hameed. Dewiswch o blith detholiad o batrymau a lluniau sy'n atseinio gyda chi ac yn adlewyrchu'r hyn yr hoffech chi i'r dyfodol fod. Yna 'gweh' nhw at ei gilydd i greu cerdd weledol trwy eu glynu i lawr. Yn olaf, trowch y dudalen drosodd i ddatgelu eich cerdd destun sy'n cynnwys geiriau gan Sadia a'r awdur a'r diwygiwr cymdeithasol Robert Owen (yn wreiddiol o'r Drenewydd).

A yw eich cerdd ddeuol am y dyfodol yn llawn natur a harddwch? A yw'n dwyn i gof hanes llafur a thir? Mae’r gweithdy hwn yn seiliedig ar themâu sy’n ymwneud â gwaith ac etifeddiaeth Robert Owen, mewn ymateb i gofeb newydd a fydd yn cael ei chodi yn y Drenewydd eleni. Y gobaith yw y bydd yn dod i fyny safbwyntiau diddorol ar sut mae 'iwtopia' yn cael ei adeiladu, a beth all 'iwtopia' fod.

Mae Sadia Pineda Hameed yn awdur ac artist sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, Cymru. Mae hi'n gweithio mewn ffilm, gosodiadau, testun a pherfformiad i archwilio trawma cyfunol ac etifeddol; yn arbennig, y ffyrdd cudd yr ydym yn siarad am hyn trwy freuddwydio, cymundeb telepathig a chyfrinachau fel strategaeth wrth-drefedigaethol sy'n gynhenid i ni. Arweinir ei hymarfer gan deithiau semiotig a chysylltiadol, ac ymddiriedaeth yn y broses reddfol. Mae hi wedi dangos gwaith gyda Bluecoat, The Mosaic Rooms, Canolfan Gelfyddydau Chapter, Amgueddfa Cymru, g39, Arcade/Campfa, MOSTYN ac eraill. Mae Sadia hefyd yn gyd-sylfaenydd LUMIN, gwasg fach, cydweithfa gelfyddydol, prosiect curadurol a rhaglen radio.

Rhan o'n llinyn Lleisiau Amrywiol.

Gwybodaeth am y Lleoliad

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau