Straeon y Gaeaf: Analluoedd Beiddgar
Gyda Jo Vagabondi
Dydd Sadwrn 11 Chwefror 2 – 3pm

Mae’r storïwr a’r pypedwr Jo Vagabondi yn dod â chyfuniad aflafar o chwedlau, o bell ac agos, am bobl a’u analluoedd beiddgar. Straeon am niwro-bwerau anhygoel, archbwerau annodweddiadol a namau sy'n profi'n ddelfrydol ar gyfer arwr lleol.
Cafodd Jo ddiagnosis o’r anhwylder ymennydd prin, Narcolepsi, 10 mlynedd yn ôl a newidiodd ei bywyd yn llwyr a gwneud iddi weld bod gan bob melltith ei bendithion ac y gall dod yn anabl ddangos galluoedd cudd eraill i chi.
Lle cwbl hygyrch, addas i bob oed.
Cefnogir y rhaglen hon yn garedig gan The Mycelium Storytelling Hub a Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae digwyddiadau am ddim. Croesewir rhoddion i gefnogi rhaglen yr oriel o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol.


Mae'r oriel ar agor:
Dydd Mawrth i ddydd Sul 11-4 Mis Mawrth i Mis Hydref.
Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn 11-4 Mis Hydref i Mis Mawrth
(Ar agor Dydd Sul dros yr hâf)
Gwyliau banc ar gau
02.06.2022 – 03.06.2022
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.