Straeon y Gaeaf: Ddydd Gŵyl Dewi Sant
Gyda Mair Tomos Ifans
Dydd Mercher 22 Chwefror
12 – 1pm Yn Cymraeg 2 -3pm Yn Saesneg

Bydd hi'n Ddydd Gŵyl Dewi ar y 1af o Fawrth ac mae llawer o straeon am Dewi fel mae'n cael ei adnabod yn Gymraeg - dewch i wrando ar Mair yn adrodd rhai o'r chwedlau amdano - ac efallai ambell stori am ryw seintiau eraill Cymreig - Ffraid, Tydecho, Melangell, Beuno - straeon doniol, straeon tyner, straeon sydd allan o'r byd hwn!
“Rwy’n adrodd chwedlau, mythau a chwedlau traddodiadol, yn bennaf o Gymru, wedi’u darlunio â chaneuon gwerin ac alawon traddodiadol yn cael eu chwarae ar delyn glin fach ac ar y delyn deires Gymreig.”
Ers bron i ddeugain mlynedd, mae Mair wedi ennill ei bywoliaeth o berfformio fel actores, cantores a storïwr. Mae hi'n byw yng Nghanolbarth Cymru ac yn perfformio ar hyd a lled y wlad a thu hwnt.
Dewch i'r sesiwn a siaredir yn Gymraeg o 12 - 1pm ac yn Saesneg o 2 -3pm
Lle cwbl hygyrch, addas i bob oed.
Cefnogir y rhaglen hon yn garedig gan The Mycelium Storytelling Hub a Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae digwyddiadau am ddim. Croesewir rhoddion i gefnogi rhaglen yr oriel o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol.


Mae'r oriel ar agor:
Dydd Mawrth i ddydd Sul 11-4 Mis Mawrth i Mis Hydref.
Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn 11-4 Mis Hydref i Mis Mawrth
(Ar agor Dydd Sul dros yr hâf)
Gwyliau banc ar gau
02.06.2022 – 03.06.2022
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.