Cymraeg

Gweithdai Ysgrifennu

Archwilio'r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru

11 Gorffennaf 2024 - 22 Ionawr 2025

Mae Oriel Davies wedi comisiynu’r ysgrifenwyr Grug Muse ac Emma Beynon i weithio hefo’n gynulleidfaoedd i greu barddoniaeth ac ysgrifen greadigol mewn ymateb i’r gwaith celf yn y Casgliad Cenedlaethol.

Mae’r Artist Ffilm Animeiddiedig, Gemma Green Hope wedi ei chomisiynu i gyfieithu’r gwaith ysgrifenedig i mewn i ffilm wedi’i animeiddio. Bydd y darn gorffenedig yn cael ei harddangos yn Oriel Davies a bydd cyhoeddiad yn cael ei greu.

manual override of the alt attribute

Cwrdd â'r Artistiaid

Emma Beynon

Rwyf wedi bod yn archwilio’r lluniau yn yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru efo grŵp o feirdd o’r Dre Newydd. Gyda’n gilydd rydym yn dod yn gymuned o anturiaethwyr creadigol, yn ymateb mewn barddoniaeth i luniau a ffotograffau ar Gelf ar y Cyd: cip olwg i mewn i’r amrywiaeth o fewn Cymru.

Mae’n cymryd amser, rydym yn drefnus yn ein sylwadau. Rydym yn ‘sgwennu’n rhydd: yn sgriblo lawr pob peth yr ydym yn ei weld, yn disgrifio’r llun, gan ei ddod yn fyw drwy ddefnyddio’r pump synhwyrau. Rydym yn cofio. Yn dychmygu. Rydym yn rhoi siâp, lliw a llais i’r bobl a’r tirweddau.

Mae ysgrifennu barddoniaeth yn rhoi amser i ni edrych, i weld ac ymateb yn greadigol i naratif a phroses yr artist. Mae’n rhoi amser i ni blymio’n ddwfn hefo’n gilydd ac i drafod, cwestiynu a datgelu. Mae pob cerdd wedi’u hysgrifennu yn y grŵp yn drawiadol o wahanol ond i gyd wedi ei hysbrydoli gan y foment pan yr ydym efo’n gilydd, yn archwilio’r un llun.

Emma Beynon

Grug Muse

Wrth edrych drwy gasgliad 'Celf ar y Cyd', dwi'n chwilio am gysylltiadau annisgwyl, neu ddarnau sydd yn gallu cael eu gosod mewn ymgom ddiddorol. Beth sy'n digwydd wrth gyfosod llun hardd o bwll dŵr, efo llun o dirwedd ddiwydiannol hagr? Beth yw'r themâu neu'r syniadau sy'n eu cysylltu? Clustfeinio, a chyfrannu at y sgyrsiau hynny rhwng y gweithiau yda ni’n ei wneud yn y gweithdai felly.

Grug Muse


Gweithdai Ysgrifennu sydd ar ddod

Bydd gweithdai yn rhedeg o 10.30am-1pm.

Ymunwch ag Emma ar gyfer gweithdai ysgrifennu Saesneg:

Dydd Mercher 4 Medi yn Oriel Davies Gallery

Oherwydd bod yr oriel ar gau ar gyfer gwaith ailddatblygu (darganfod mwy) bydd y gweithdai canlynol yn Adeilad Pryce Jones

Dydd Mercher 9 a 23 Hydref

Dydd Mercher 6 a 20 Tachwedd

Dydd Mercher 4 a 11 Rhagfyr

Dydd Mercher 8 a 22 Ionawr



Ymunwch â Grug ar gyfer gweithdai ysgrifennu Cymraeg:

Dydd Gwener 11 Hydref

Mwy o ddyddiadau i'w cadarnhau


/

Writing poetry in response to a painting is entirely new to me. I found it quite daunting at first but being part of a merry group carries you along. Nevertheless it is quite demanding… I had a painting of a hillside with very little happening in it; nothing came; I took it home and imagined skylarks in it and wrote the first line:

“Oh! to fly through the music of the sky, singing”.

By the end my words had become birds and the poem a cloud. Quite honestly, I couldn’t have wished for more. No one can take this away from you.

- Adborth gan un o'r Cyfranogwr, 2024

/

Rhan o gerdd gan Dewi Roberts, wedi ei ysgrifennu mewn ymateb i Polluted pool at Maindee gan Jack Crabtree

Polluted pool at Maindee | Artwork (celfarycyd.wales)

Yn y wyneb – y meniscws

Er mor eithriadol o denau a bregus yw’r haen o wyneb neu’r meniscws, mae bywyd yma hefyd fel wyau mathau o wybed. Ffilm o fywyd sydd yma.

Ar waelod y wyneb

Yn hongian yn amyneddgar o waelod y wyneb mae cychwr sy’n aros am damaid o fwyd – treulia hwn llawer o’i fywyd ar ei gefn gan nofio am yn ôl.

Cerdd gan Keith Roberts, wedi ei ysgrifennu mewn ymateb i Bedtime gan Howard Hodgkin

Bedtime | Artwork (celfarycyd.wales)

Where does your frame end

and the picture begin?

As you drift off

to the chaotic dreamscapes.

Maybe you never had a frame,

dreams don’t.

They don't need them.

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad Gwybodaeth am Docynnau
Grug Muse - Block of Welsh Language Workshops £0.00 PP*
Cyfanswm:

*Fesul person

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau

Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.