Cymraeg

Toby Hay

Mae Toby Hay yn chwaraewr gitâr a chyfansoddwr sy'n cael ei swyno gan y cysylltiad rhwng tirwedd a cherddoriaeth. Mae ei gerddoriaeth ei hun wedi’i hysbrydoli gan dirweddau Mynyddoedd Cambria, lle mae wedi byw ar hyd ei oes. Ef yw sylfaenydd Cambrian Records. Yn 2021 cwblhaodd MA mewn Cerddoriaeth a’r Amgylchedd o Brifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd. Cyn dechrau gweithio yn yr oriel, bu Toby yn gweithio i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed.

Ymunodd Toby ag Oriel Davies fel Swyddog Marchnata a Chyfathrebu yn 2023.

“Rwy’n angerddol am greadigrwydd a’r byd naturiol. Rwyf wedi gweld pŵer y celfyddydau i helpu pobl i gysylltu â’r dirwedd o’u cwmpas. Rwy’n credu’n gryf y dylai creadigrwydd redeg trwy ein bywydau bob dydd cymaint â phosibl, ac i bobl gael y cyfleoedd i archwilio’r ochr honno ohonyn nhw eu hunain mewn man diogel ac agored.”

BETH YDYCH CHI'N HOFFI AM YR HYN MAE ORIEL DAVIES YN EI WNEUD:

Mae'n ofod croesawgar, hamddenol iawn. Does dim snobyddiaeth yma. Mae celf i bawb!

HOFF ARTEFFAITH DDIWYLLIANNOL:

Byddai'n rhaid i mi ddweud y gitâr! Yn benodol, fy ngitâr 12 tant a gafodd ei wneud i mi gan Roger Bucknall o gitarau Fylde. Mae wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd dros y blynyddoedd diwethaf!

You might also be interested in...