Cymraeg

Ymddiriedolwyr

Hoffech chi helpu i lunio dyfodol Oriel Davies Gallery?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn celf weledol ac wedi ymrwymo i sicrhau bod y profiad o gelf gyfoes ar gael i bawb? Ydych chi eisiau gwneud cyfraniad cadarnhaol i'n cymuned, i gymdeithas ac i'r amgylchedd?

Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno â Bwrdd Oriel Davies yn 2022 i helpu i lunio dyfodol yr oriel.

Hoffem glywed gan unigolion o gefndiroedd amrywiol sydd â diddordebau, sgiliau a mewnwelediadau sy’n berthnasol i’n gwaith. Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol arnoch i fod yn ymddiriedolwr, ond rhaid i chi fod yn ymroddedig i werthoedd Oriel Davies Gallery, gan gynnwys:

• Mynediad cyfartal a hael i gelfyddyd a diwylliant

• Gweithio gydag artistiaid, dylunwyr, gwneuthurwyr a phobl greadigol eraill er budd ein cymuned a'r amgylchedd

• Datgloi talent gudd a hyrwyddo amrywiaeth greadigol

Mae gennym ddiddordeb mewn potensial ac rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl sy’n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, ifanc, anabl, LGBTQI+.

Mae Oriel Davies Gallery hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant a’r iaith Gymraeg, a’n nod yw cryfhau sgiliau Cymraeg ein Hymddiriedolwyr. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.

Rydym hefyd yn chwilio am ymddiriedolwyr sydd â phrofiad/sgiliau yn y meysydd canlynol:

- Ymarfer creadigol, gan gynnwys celf, dylunio, crefft, ffilm, digidol

- Cyfathrebu, gan gynnwys cysylltiadau â'r cyfryngau, marchnata, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus

I ddarganfod mwy, cliciwch yma

You might also be interested in...